Mae Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Gwyrdd yn ffocws enfawr i Abertawe ac yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yr ydym yn arbenigo ynddo.
Fel rhan o brosiect ynni adnewyddadwy gwerth £3bn, bydd maes parcio a theithio Ffordd Fabian Abertawe yn dod yn ganolbwynt trafnidiaeth ynni gwyrdd gyda’r potensial i gynnwys gorsaf gweithgynhyrchu hydrogen ar gyfer trafnidiaeth sy’n cael ei bweru gan hydrogen yn ogystal â chynnig pwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Bydd y prosiect hefyd yn gweld ehangu fferm solar bresennol a fydd yn creu un o gyfleusterau cynhyrchu ynni solar mwyaf y DU yn ogystal â chyfleuster gweithgynhyrchu newydd yn SA1 yn gwneud batris uwch-dechnoleg a fydd yn storio’r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir o’r fferm solar.
Bydd buddsoddwyr yn cael eu cysuro bod llawer o bartneriaethau gwaith cryf rhwng y prifysgolion, y Cyngor a’r sector preifat i yrru arloesi gwyrdd yn ei flaen. Mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys:
- Canolbwyntiodd Hyb SWITCH Prifysgol Abertawe ar ddatgarboneiddio’r sector dur a metelau a’r gadwyn gyflenwi
- Mae Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) PCYDDS yn ceisio helpu’r sector adeiladu i ddod yn ddiwydiant sero net, gan gynnwys drwy raglenni sy’n canolbwyntio ar y diwydiant i gefnogi datgarboneiddio mewn adeiladu oddi ar y safle.
- Rhaglen Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE), a arweinir gan y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n gweithio gyda chwmnïau cadwyn gyflenwi lleol i brofi sut y gellir defnyddio CO₂ a gynhyrchir o brosesau diwydiannol trwm yn arloesol i wneud cynhyrchion gwerth uchel a chemegau o bwysigrwydd diwydiannol.