Mae gan gyngor Abertawe dîm busnes ymroddedig sy’n cynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth i’ch busnes.
P’un a ydych yn dechrau eich busnes neu’n dymuno ehangu a thyfu, gwella eich cynaliadwyedd neu eich presenoldeb digidol, gallwn helpu.
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
Financial Support
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i ddarparu mynediad at gymorth ariannol, boed hynny wrth sicrhau grantiau a benthyciadau neu gael mynediad at gynlluniau cymorth ariannol lleol a rhanbarthol, gallwn
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gydag ystod eang o bartneriaid i ddarparu cyngor a chefnogaeth waeth beth fo maint neu sector eich busnes.
Start-up Support
Gall ein cymorth cychwyn busnes gymryd y cur pen allan o lansio busnes newydd. Rydym am eich gweld yn llwyddo ac rydym wedi llunio pecyn cymorth sy’n cynnwys aelodaeth o Glwb Menter Cychwyn Busnes Abertawe sy’n cysylltu busnesau newydd ag arbenigwyr busnes ac yn darparu cymorth mis yn bersonol ac ar-lein.
Rydym hefyd yn eich helpu i gael mynediad at gyllid a chaffael eiddo neu eich helpu gyda chaniatâd i weithio gartref. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â Busnes Cymru ac Ymddiriedolaeth y Tywysog sy’n cynnig eu cymorth pwrpasol eu hunain i fusnesau newydd.
Recruitment and Training
Gall dod o hyd i weithlu medrus i wasanaethu eich busnes fod yn heriol wrth gychwyn neu adleoli. Rydym yn helpu i wneud y broses hon yn haws drwy agor drysau a gwneud cysylltiadau â cholegau AB a phrifysgolion lleol yn ogystal â gwasanaethau cyflogadwyedd fel Gweithffyrdd+.
Gallwn hefyd eich helpu i gael mynediad at hyfforddiant a datblygiad sector-benodol a Phrentisiaethau.
Online and Digital Support
Rydym yn darparu cymorth i fusnesau i sicrhau bod eich cysylltiadau band eang yn gyflym ac yn ddibynadwy. Mae Abertawe’n elwa o fand eang cyflym iawn ac rydym yn helpu i gysylltu busnesau ledled y sir i gyflawni eu cysylltiadau gorau posibl.
Further Advice and Support
Rydym yn cynnig awr gymorth fisol gydag arbenigwyr busnes sy’n eich galluogi i gysylltu â busnesau lleol eraill ac ehangu eich gwybodaeth.
Rydym hefyd yn cyfeirio busnesau newydd at ystod eang o grwpiau rhwydweithio busnes, at BID Abertawe ac at Busnes Cymru. Rydym yn falch o helpu busnesau i wella eu gallu yn y Gymraeg. Gall gwasanaeth Helo Blod Busnes Cymru gyfieithu hyd at 500 o weithiau’r mis i chi yn rhad ac am ddim.
Mae rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau cymorth busnes ar gael yma https://swansea.gov.uk/businessadvice
Contact Form
Os hoffech wybod mwy am Abertawe a sut y gallwn eich cefnogi i sefydlu neu adleoli eich busnes, llenwch y ffurflen.