Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA) yn darparu cymorth a chyngor i fudiadau trydydd sector.

Mae’n darparu cyfres o becynnau cymorth i sefydliadau gan gynnwys:

Information and Support

Mae CGGA yn rhoi cyngor ar ystod eang o bynciau gan gynnwys cyllid a chyngor ar gynaliadwyedd. Bydd yn cyfeirio at sefydliadau eraill ac yn darparu cyhoeddiadau ac adnoddau a fydd yn ddefnyddiol i sefydliadau.

Volunteer Centre

Mae CGGA yn eich galluogi i bostio eich cyfleoedd gwirfoddoli gyda’i Ganolfan Wirfoddoli, gan helpu i recriwtio gwirfoddolwyr am ddim.

Training Courses and Events

Mae’r Uned Hyfforddi a’r Ganolfan Ddysgu yn galluogi sefydliadau i uwchsgilio, ennill gwybodaeth a hyder trwy gyfres o gyrsiau byr mewn meysydd fel rheoli cyllid a sgiliau pwyllgor.

Partnership, Representation and Consultation

Mae CGGA yn nodi safbwyntiau’r sector gwirfoddol lleol ac yn eu cyfleu i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Ffurflen Gyswllt

Os hoffech wybod mwy am Abertawe a sut y gallwn eich cefnogi i sefydlu neu adleoli eich busnes, llenwch y ffurflen.