Swansea is transforming

Mae buddsoddiad mawr ar ffurf rhaglen adfywio gwerth £1bn a llif deinamig o gymorth a chydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat yn denu lefelau digynsail o ddiddordeb gan fusnesau o bob maint.

Mae’r ddinas yn adnabyddus am ei hagwedd groesawgar a’i henw da nid yn unig am ansawdd bywyd gwych ond cydbwysedd cryf rhwng bywyd a gwaith. Mae cyfoeth o draethau, parcdiroedd a gerddi ar garreg ein drws yn gwneud Abertawe yn lle deniadol i weithio, byw a chwarae ynddo.

O ddatblygiadau swyddfa a hamdden o’r radd flaenaf sy’n rhoi bywyd newydd i bob rhan o ganol y ddinas, hyd at gynlluniau ar gyfer morlyn llanw cyntaf y DU, mae Abertawe’n profi adfywiad heb ei ail.

Contact Form

Os hoffech wybod mwy am Abertawe a sut y gallwn eich cefnogi i sefydlu neu adleoli eich busnes, llenwch y ffurflen.