Mae gweithio yn Abertawe yn gyfle deniadol i’r 23,200 o gymudwyr dyddiol sy’n dod i’r ddinas.
Fel calon Rhanbarth Dinas Bae Abertawe a phrifddinas De-orllewin Cymru, mae Abertawe yn ganolbwynt i fusnesau. Mae yna lawer o resymau pam mae pobl eisiau gweithio yn Abertawe.
Lleoliad
Mae gan Abertawe gysylltiad da â dinasoedd mawr eraill y DU ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd. Mae gan y ddinas hefyd rwydwaith beicio cryf sy’n rhoi’r cyfle i lawer o gymudwyr feicio i’r gwaith ar lwybrau beicio pwrpasol, di-draffig.
Cysylltedd
Mae gennym ni gysylltiadau da yn gorfforol ac yn ddigidol.
Mae Abertawe’n elwa ar rwydwaith telathrebu soffistigedig sy’n cynnwys cyfathrebu data a fideo uwch gyda mynediad i fand eang cyflym iawn. Mae’r ddinas yn arloeswr yn y DU o ran technolegau band eang newydd ac mae’n lleoliad ar gyfer technolegau band eang gwibgyswllt G.Fast.
Sgiliau
Mae Abertawe yn ddinas o bobl fedrus, greadigol. Mae gan 47.7% o’r boblogaeth waith gymwysterau hyd at lefel gradd neu uwch.
Mae Abertawe yn gartref i ddwy brifysgol arobryn ac un o golegau AB mwyaf blaenllaw Cymru.