Mae Abertawe yn ddinas o bobl fedrus, greadigol. Mae gan 47.7% o’r boblogaeth waith gymwysterau hyd at lefel gradd neu uwch.

Mae Abertawe yn gartref i ddwy brifysgol arobryn ac un o golegau AB mwyaf blaenllaw Cymru.

Mae Prifysgol Abertawe yn safle 25 yn y DU a hi yw’r brifysgol orau yng Nghymru yn ôl The Guardian University Guide 2024. Gydag enw da byd-eang am ymchwil a hanes cryf o gydweithio â busnesau i gael effeithiau diriaethol, mae Prifysgol Abertawe yn ased enfawr i’r ddinas. Mae nifer y myfyrwyr yn yr 20,000 uchaf ac mae ei Ffowndri Gyfrifiadurol yn gyrru ymchwil i’r gwyddorau cyfrifiadurol a mathemategol, gan wneud Abertawe’n gyrchfan byd-eang i wyddonwyr cyfrifiannol a phartneriaid diwydiannol.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn Brifysgol Sector Deuol (addysg uwch ac addysg bellach) gyda champysau ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Mae PCYDDS wedi agor Y Matrics Arloesedd yn ddiweddar ar ei champws Ardal Arloesi SA1. Bydd y Matrics yn canolbwyntio’n llwyr ar arloesi digidol ac yn ychwanegu at bortffolio’r brifysgol o arbenigeddau ymchwil sy’n ei gweld yn cysylltu â diwydiant ac yn ei gefnogi mewn llawer o sectorau. Mae ymhlith y 10 uchaf o brifysgolion y DU am foddhad myfyrwyr (NSS 2023).

Mae gan Goleg Gŵyr, prif ddarparwr AU Abertawe ac un o golegau mwyaf blaenllaw Cymru 14,000 o fyfyrwyr ar gampysau ledled y ddinas. Gyda llwybrau galwedigaethol ac academaidd, mae’r coleg yn cynnig amrywiaeth eang o bosibiliadau addysgol. Mae’r Coleg hefyd yn elwa o gangen hyfforddi sy’n darparu atebion pwrpasol ar gyfer cwmnïau lleol.