Mae cyflawni cydbwysedd gwaith/bywyd ac ansawdd bywyd yn fwy na chyraeddadwy yn Abertawe, diolch i’w mynediad dirwystr i’r awyr agored.

Mae’r traeth a’i 8km o bromenâd, rhwydweithiau beicio a cherdded a sîn ddiwylliannol a chelfyddydol eang a chynhwysol yn helpu i wneud Abertawe’n lle gwych i fyw.

Amgylchedd Naturiol

Adnabyddir Abertawe fel y Porth i Benrhyn Gŵyr, sef Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU. Mae ganddi 32 milltir o arfordir a 50 o draethau a childraethau.

Mae Abertawe ei hun yn ddinas ar y môr, gyda chanol y ddinas yn ymledu o Fae Abertawe.

Diwylliant

Mae tirwedd a lleoliad arfordirol Abertawe yn theatr naturiol ac yn gartref i lawer o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol bob blwyddyn.

Mae’r ddinas yn gartref i gelfyddydau a cherddoriaeth ac mae Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Rygbi’r Gweilch yn brif dimau pêl-droed a rygbi mewn dinas sy’n caru chwaraeon.

Pobl

Mae gan Abertawe boblogaeth o 241,300 a rhagwelir y bydd hynny
tyfu i 250,000 erbyn 2030.

Mae dros 600,000 o bobl yn byw o fewn 30 munud o amser gyrru a 2 filiwn arall o fewn awr o amser gyrru.