Mae Abertawe’n cael ei hadnabod fel y Porth i Benrhyn Gŵyr, sef Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.
Mae ganddi 32 milltir o arfordir a 50 o draethau a childraethau. Mae Abertawe ei hun yn ddinas ar y môr, gyda chanol y ddinas yn ymledu o Fae Abertawe.
Mae’r ddinas yn cysylltu â rhwydwaith teithio llesol 120km o lwybrau beicio a cherdded ar y ffordd ac oddi ar y ffordd i bobl o bob gallu. Mae Abertawe hefyd yn gartref i fwy na 50 o barciau a gerddi, gan roi cyfleoedd i bawb fwynhau mannau gwyrdd sy’n cael eu cynnal a’u cadw a’u rheoli’n dda.
Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i ddod â byd natur i ganol y ddinas ac, ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru, mae wedi cyhoeddi strategaeth seilwaith gwyrdd ar y cyd sy’n ceisio mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, cynyddu bioamrywiaeth a gwella lles a mwynhad trigolion ac ymwelwyr.