Chwaraeon

Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Rygbi’r Gweilch yw’r prif dimau pêl-droed a rygbi mewn dinas sy’n caru chwaraeon. Mae tîm pêl-droed y Bencampwriaeth yn denu torfeydd sy’n gwerthu pob tocyn yn rheolaidd yn Stadiwm Abertawe.Com a bydd cartref newydd y Gweilch yn San Helen yn gweld pennod newydd i brif dîm rygbi’r ddinas.

Mae gan Abertawe gyfleusterau chwaraeon rhagorol gan gynnwys cyfoeth o gampfeydd, pwll nofio 50m, canolfan hamdden ynghyd â pharc dŵr a rhwydwaith awyr agored o lwybrau cerdded a beicio.

Mae’r ddinas hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon blynyddol gan gynnwys:

  • Triathlon Abertawe
  • Hanner Marathon Abertawe
  • 10k Bae Abertawe
  • Ironman 70.3 Abertawe

Cerddoriaeth a’r Celfyddydau

Mae’r ddinas yn gartref i leoliadau celfyddydol a cherddoriaeth a digwyddiadau fel Neuadd Brangwyn, Theatr y Grand, Oriel Gelf Glynn Vivian a Theatr Dylan Thomas sy’n denu artistiaid a pherfformwyr byd-enwog.

Wedi’i hagor yn 2022, Arena Abertawe, yw’r lleoliad diwylliannol diweddaraf i agor ei ddrysau yn y ddinas. Mae’r lleoliad sydd wedi’i gysylltu â chanol y ddinas trwy bont newydd sydd wedi’i dylunio’n unigryw ac sy’n cael effaith, yn gallu dal 3,500 ac mae’n denu enwau mawr o’r byd comedi, theatr a cherddoriaeth. Mae mwy na 350,000 o bobl wedi mynychu digwyddiadau yno ers iddo agor.

Digwyddiadau

Mae tirwedd a lleoliad arfordirol Abertawe yn theatr naturiol ac yn gartref i lawer o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol bob blwyddyn. Y mwyaf arwyddocaol yw Sioe Awyr flynyddol Cymru sy’n denu dros 200,000 o ymwelwyr i’r ddinas bob mis Gorffennaf.

Siopa

Mae 800 o fusnesau yng nghanol y ddinas gyda chymysgedd o frandiau manwerthu cenedlaethol ac annibynnol. Yr em yng nghoron canol dinas Abertawe yw Marchnad Dan Do Abertawe a enillodd y Farchnad Dan Do Fawr Orau yng Ngwobrau Cymdeithas Genedlaethol Awdurdodau Marchnadoedd Prydain 2024.