Mae gan Abertawe boblogaeth o 241,300 a rhagwelir y bydd yn tyfu i 250,000 erbyn 2030.
Mae dros 600,000 o bobl yn byw o fewn 30 munud o amser gyrru a 2 filiwn arall o fewn awr o amser gyrru.
Mae poblogaeth myfyrwyr Abertawe yn 29,000 dros y ddwy brifysgol.
Mae ardal Uplands yn Abertawe wedi’i henwi’n un o’r lleoedd gorau yn y DU i gymdeithasu ynddo gan Fynegai Cymdogaeth Hip-Hang-Out Travel Supermarket, tra bod y Mwmbwls wedi’i enwi’n Lle Gorau i Fyw yng Nghymru gan y Sunday Times.
Mae Abertawe yn Ddinas Noddfa swyddogol, a ddyfernir i ddinasoedd sy’n arddangos diwylliant o letygarwch a chroeso, yn enwedig i ffoaduriaid sy’n ceisio lloches rhag rhyfel ac erledigaeth.