PREV
NESAF
Cam 2 Gwaith Copr yr Hafod
Mae Cyngor Abertawe ac Urban Splash yn datblygu fframwaith gofodol strategol newydd a gweledigaeth ddatblygu ar gyfer y safle hanesyddol hwn ar lannau Afon Tawe. Mae’r cynllun yn nodi ystod o leiniau datblygu a chyfleoedd – masnachol a phreswyl – i ategu’r miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat sydd eisoes yn mynd i’r safle.