O fwytai a siopau coffi annibynnol i gynhyrchu a chyflenwi bwyd a diod, mae Abertawe’n ddinas sy’n adnabod ac yn gwerthfawrogi bwyd a diod da.

Mae ffocws mawr ar gyrchu bwyd a diod a gynhyrchwyd yn gynaliadwy a chefnogi lleol lle bo modd er budd amgylcheddol ac economaidd. Mae prosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel Bwyd Abertawe yn cefnogi tyfwyr, cynhyrchwyr a rhanddeiliaid i gysylltu ac addo cefnogi economi bwyd ffyniannus yn y ddinas a thu hwnt.

Mae Abertawe’n gartref i Gig Oen Morfa Heli Gŵyr, Cocos Penclawdd a Fodca’r UA. Mae ganddi’r farchnad dan do fawr orau yn y DU yn ôl Cymdeithas Genedlaethol Awdurdodau Marchnadoedd Prydain (NABMA) eleni, sy’n llawn busnesau bwyd a diod annibynnol.

Cefnogir Busnesau Bwyd a Diod yng Nghymru gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru sy’n helpu busnesau yn y sectorau prosesu a gweithgynhyrchu i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a’r cymwysterau cywir.

Swansea-headquartered AU Vodka was the fastest growing UK company in 2023

Gower Salt Marsh Lamb holds Protected Destination of Origin (PDO) status