Fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, mae’r rhanbarth yn elwa ar fuddsoddiad o £175m mewn seilwaith digidol.
Yn ddiweddar mae Cyngor Abertawe wedi partneru â Freshwave i osod technoleg celloedd bach mewn goleuadau stryd ledled canol y ddinas i helpu i hybu capasiti’r rhwydwaith ar adegau prysur.
Mae’r celloedd bach hefyd yn cefnogi gweithrediad posibl technoleg arall i fonitro llygredd aer a rheoli biniau smart. Mae Abertawe’n diogelu ei hun at y dyfodol a disgwylir i’r Rhaglen Seilwaith Digidol roi hwb o £318m i’r economi ranbarthol.
Mae Abertawe yn arloeswr yn y DU ym maes technolegau band eang newydd ac mae’n lleoliad ar gyfer technolegau band eang gwibgyswllt GFast.
Mae Ffowndri Gyfrifiadurol Prifysgol Abertawe yn cysylltu’r byd academaidd a diwydiant i yrru ymchwil i’r gwyddorau cyfrifiadurol a mathemategol. Mae’n canolbwyntio ar seiberddiogelwch, technolegau iechyd a threiddiad cynyddol digidol ym mywyd beunyddiol. Mae eisoes wedi gwneud Abertawe’n ganolbwynt i wyddonwyr cyfrifiannol a phartneriaid diwydiannol.
Mae’r sector Technoleg Ddigidol yn tyfu, gyda llawer o fentrau newydd yn dod i’r amlwg yn Abertawe, gan ddangos i fuddsoddwyr fod Abertawe yn lle gwych i lansio busnes.