Fel dinas ar y môr, mae sector twristiaeth Abertawe yn ffynnu. Yn cael ei hadnabod fel hafan ar gyfer gweithgareddau awyr agored a chwaraeon dŵr, mae Abertawe’n croesawu 4.7m o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae pobl yn cael eu denu i’r ardal oherwydd ei thraethau, ei chyfleusterau hamdden ac adloniant a chyfoeth o ddigwyddiadau o achlysuron chwaraeon fel yr IRONMAN 70.3 a Hanner Marathon Abertawe hyd at Benwythnos Celfyddydau Abertawe a Sioe Awyr Genedlaethol Cymru.
Mae effaith economaidd twristiaeth ar y ddinas ar hyn o bryd yn £609m y flwyddyn a rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ei wneud yn gynnig deniadol i fuddsoddwyr.
Mae’r cynnig twristiaeth yn Abertawe yn cynnwys gwestai a bwytai yn ogystal â chyrchfannau fel Arena Abertawe, Plantasia, Pwll Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Dreftadaeth Gŵyr.