Pam Abertawe

Mae Abertawe'n darparu rhywbeth unigryw: amgylchedd fusnes sydd mor uchelgeisiol ag yw'n fforddiadwy, ynghyd â thraethau arobryn, cyfaredd hanesyddol a bywyd diwylliannol llewyrchus. 

Y Ddinas ar y Traeth gyda chryfder masnachol

Mae Abertawe ar ganol rhaglen adfywio beiddgar gwerth £1 biliwn, gan ei gwneud yn un o gyrchfannau buddsoddi mwyaf cyffrous y DU gan greu cyfleoedd gwych ar draws pob sector. O gyrchfannau hamdden mawr newydd i hybiau arloesi ar y glannau, mae'r ddinas yn cynnig cyfleoedd masnachol eithriadol.

Gyda chefnogaeth cydweithio cyhoeddus-preifat-academaidd cadarn, mae'r ddinas yn darparu amgylchedd risg-isel â photensial uchel, gydag isadeiledd all ehangu a thalent medrus. Wedi'i lleoli ar gyfer twf a chynaliadwyedd, mae Abertawe'n cynnig cyfle i fuddsoddwyr fod yn rhan o ddinas arfordirol fywiog sydd ar flaen y gad gydag arloesedd ac adfywio.

Lleoliad

Mae gan Abertawe gysylltiadau da gyda dinasoedd mawr eraill.

Mae Abertawe mewn lle da ar gyfer teithiau awyr, gyda Maes Awyr Caerdydd rhyw awr i ffwrdd a Maes Awyr Bryste o fewn awr a hanner, gan ddarparu mynediad hawdd i hediadau domestig a rhyngwladol.

Mae Porthladd Abertawe'n gallu trafod 30,000 tunelledd llwyth ac mae'n trafod gwerth rhyw £140 miliwn mewn masnach bob blwyddyn. Mae'r porthladd yn cynnig angorfeydd a chyfleusterau ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o gargo ac mae wedi'i leoli'n agos at ganol y ddinas ac at bob cysylltiad cludiant.