Datblygiadau a Chyfleoedd
Mae Abertawe, y Ddinas ar y Traeth, yn cynnig cyfuniad unigryw o fywyd dinesig a harddwch arfordirol, gan ei gwneud yn ddinas eithriadol i fyw a gweithio ynddi.
Mae Abertawe yn destun trawsnewidiad trawiadol gwerth £1 biliwn, gyda phrosiectau adfywio mawr a safleoedd datblygu strategol yn ailsiapio'r ddinas ar gyfer y dyfodol. O gynlluniau proffil uchel yng nghanol y ddinas i ddatblygiadau arloesol defnydd-cymysg ar y glannau a pharthau cyflogaeth, mae Abertawe'n cynnig portffolio amrywiol o gyfleoedd buddsoddi. Archwiliwch safleoedd a datblygiadau allweddol sy'n gyrru twf, yn denu busnes ac yn creu lle bywiog a chynaliadwy i fyw, i ymweld, i weithio ac i wneud busnes.
Cyfleoedd Cyfredol
Mae gan Abertawe nifer o ddatblygiadau yng nghanol y ddinas ei hun ac ar draws y sir, y cyfan yn barod ar gyfer eich busnes.
Mae gennym hefyd nifer o ddatblygiadau ar y gweill sydd ar hyn o bryd yn derbyn ymholiadau gan bartïon sydd â diddordeb.
Does dim amser gwell wedi bod ar gyfer buddsoddi yn Abertawe.
Datblygiadau Cyfredol
Mae gan Abertawe raglen uchelgeisiol o ddatblygiadau newydd a gwaith adnewyddu stoc adeiladu presennol.
Mae nifer o ddatblygiadau'n digwydd ar hyn o bryd gyda dyddiadau agor rhwng nawr a 2026. Mae'r datblygiadau hyn yn anadlu bywyd i bob rhan o'r ddinas a byddant yn fuddiol iawn i Abertawe gan greu cyfleoedd newydd am swyddi, gofodau gweithio arloesol a chyfleusterau hamdden.
Datblygiadau'r Dyfodol
Gan adeiladu ar lwyddiant trawsnewidiad diweddar Abertawe, mae llawer o gynlluniau ar droed i wella'r ddinas y fwy fyth.
O ardaloedd adloniant a hamdden newydd i brosiectau ynni gwyrdd uchelgeisiol, dyma ddetholiad o ddatblygiadau Abertawe i'r dyfodol.
Datblygiadau sydd wedi'u cwblhau
Mae Abertawe wedi gweld newidiadau enfawr dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae buddsoddi mewnol a gwaith datblygu enfawr wedi trawsnewid canol y ddinas a thu hwnt. Mae llawer o brosiectau wedi'u cwblhau bellach ac wedi dod yn rhan o ffabrig y ddinas, yn atyniadau hamdden a chelfyddydau newydd yn ogystal â gofodau swyddfa modern.