Technoleg Ddigidol
Mae Abertawe'n arwain y gad gydag arloesedd digidol, gyda chefnogaeth buddsoddi mawr ac isadeiledd o safon byd sy'n trawsnewid y rhanbarth i fod yn hwb cysylltiedig, yn barod at y dyfodol, ar gyfer busnes.
Buddsoddiad o £175 mewn Isadeiledd y Genhedlaeth Nesaf
Mae'r weledigaeth i wneud Abertawe'n ddinas wirioneddol ddigidol yn prysur agosáu at gael ei gwireddu.
Ar ôl penodi Hyrwyddwyr Digidol dynodedig i feithrin perthnasoedd newydd â chyflenwyr a darparwyr isadeiledd, mae Abertawe wedi cyflymu datblygiad ei sylfeini digidol i ategu anghenion mentrau busnes cyfoes.
Mae meddu ar dîm sy'n ymrwymedig i gysylltedd digidol wedi arwain at roi prosiectau niferus ar waith yn llwyddiannus a fydd yn helpu busnesau yn Abertawe i ffynnu.
Mae'r enghreifftiau diweddar yn cynnwys:
- Gosod rhwydwaith ffeibr tywyll pwrpasol ar draws safleoedd allweddol yn y sector cyhoeddus drwy gydol 2025, a fydd yn hwyluso cydweithrediad ar draws sawl sefydliad.
- Gwella cysylltedd yng nghanol y ddinas lle defnyddir asedau'r sector cyhoeddus i gynnal isadeiledd celloedd bach i hybu gallu'r rhwydwaith symudol ar adegau prysur.
- Cyllid arloesi 5G o Raglen Isadeiledd Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe i dalu am gostau cyfalaf sy'n gysylltiedig â chreu rhwydweithiau 5G a di-wifr datblygedig. Bydd hwn yn galluogi prosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddatblygu achosion defnydd a all drawsnewid diwydiannau a chreu cyfleoedd busnes newydd.
Mae creu dinas a all fabwysiadu technoleg ddatblygol yn dangos dealltwriaeth y rhanbarth o ddyfodol materion digidol. Y nod yw ceisio cynnig profiad gwell i bobl a busnesau a gwneud Abertawe'n ddinas eithriadol ar gyfer buddsoddi mewn busnesau.
Cysylltedd ac Ymchwil Arloesol
Yn arweinydd yn y DU mewn technoleg band eang GFast, mae Abertawe'n parhau i osod y safon ar gyfer cysylltedd digidol cyflym a dibynadwy. Mae'r ddinas hefyd yn gartref i Ffowndri Gyfrifiadurol Prifysgol Abertawe, canolfan ragoriaeth sy'n cael ei chydnabod yn genedlaethol ar gyfer gwyddorau cyfrifiadurol a mathemategol.
Mae'r Ffowndri'n pontio academia a diwydiant i yrru arloesedd mewn seiberddiogelwch, technolegau iechyd a thrawsnewid digidol gan osod Abertawe yn fagnet ar gyfer doniau technegol a chydweithio gyda diwydiant.
Ecosystem Busnes Digidol Ffyniannus
Mae sector technoleg ddigidol Abertawe'n tyfu'n gyflym, gydag ymchwydd o gwmnïau newydd yn dewis y ddinas fel man cychwyn ar gyfer arloesedd. Yn ganolog i'r twf hwn mae'r Matrics Arloesedd: cyfleuster o'r radd flaenaf yn Ardal Arloesedd SA1, wedi'i weithredu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n darparu amgylchedd gydweithredol i entrepreneuriaid, ymchwilwyr a buddsoddwyr sy'n canolbwyntio ar arloesedd digidol.
Yn ychwanegu at yr ecosystem ddynamig hon mae Tramshed Tech, hwb ffyniannus sy'n cysylltu busnesau technoleg, digidol a chreadigol gyda'r gofodau, y gefnogaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn llwyddo.
Gyda'r isadeiledd cadarn hwn, cyflenwad cynyddol o dalent ac ysbryd cydweithredol, Abertawe yw'r lle delfrydol i fuddsoddi, i arloesi ac i dyfu yn yr economi ddigidol.
Pwy sydd yma...






