Twristiaeth
Fel y Ddinas ar y Traeth, mae lleoliad arfordirol unigryw Abertawe a'i darpariaeth ddiwylliannol fywiog yn ei gwneud yn un o gyrchfannau mwyaf deniadol i ymwelwyr yn y DU - ac yn gyfle gwych am fuddsoddiad mewn twristiaeth.
Mae Abertawe'n croesawu 4.6 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae'n elwa o 32 milltir o arfordir syfrdanol, dros 19 o draethau ac enw da sy'n tyfu'n barhaus fel hwb am weithgareddau awyr agored a chwaraeon dŵr. O syrffio a phadlfyrddio i gerdded ar draws Benrhyn Gŵyr - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf Prydain - mae'r ddinas yn faes chwarae naturiol sy'n parhau i ddenu ymwelwyr o bob cwr o'r DU a thu hwnt.
Dinas sy'n Croesawu ac yn Ysbrydoli
Mae economi twristiaeth Abertawe yn adeiladu ar sylfaen o galendr dynamig o ddigwyddiadau sy'n cynnwys digwyddiadau proffil uchel fel IRONMAN 70.3, Hanner Marathon Abertawe, Sioe Awyr Cenedlaethol Cymru a digwyddiadau diwylliannol poblogaidd fel Penwythnos Celfyddydau Abertawe. Mae'r digwyddiadau hyn yn arwain at ymwelwyr yn dychwelyd i'r ddinas ac yn creu cynnig twristiaeth bywiog drwy gydol y flwyddyn.
Mae gan y ddinas apêl lenyddol hefyd drwy ei mab enwog, Dylan Thomas; caiff ei etifeddiaeth ei ddathlu mewn atyniadau fel Canolfan Dylan Thomas - magnet i dwristiaid diwylliannol sydd â diddordeb yn ei fywyd a'i effaith ar lenyddiaeth.
Amrywiaeth Eang o Brofiadau Ymwelwyr
Mae Abertawe'n cynnig ystod eang o atyniadau sy'n apelio at bob oedran a diddordeb, gan gyfuno harddwch naturiol gyda dyfnder diwylliannol ac adloniant i'r teulu cyfan. Gall ymwelwyr fwynhau tirnodau hanesyddol fel Castell Ystumllwynarth, dysgu am dreftadaeth Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, neu fwynhau profiadau amrywiol yn Sw Trofannol Plantasia. I fwynhau golygfeydd gwych a cherdded ar lwybrau arfordirol, mae safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili - sy'n edrych i lawr dros Fae byd-enwog Rhosili - yn cynnig profiad o safon byd. Mae'r portffolio amrywiol o atyniadau yn sicrhau fod Abertawe'n parhau i fod yn gyrchfan sy'n denu i ymwelwyr dydd neu benwythnos a thwristiaid rhyngwladol fel ei gilydd.
Sector sy'n Tyfu
Mae twristiaeth yn cyfrannu £609 miliwn yn flynyddol tuag at economi Abertawe, gyda rhagolygon cryf am dwf flwyddyn ar ôl blwyddyn wedi'i yrru gan fuddsoddiad, isadeiledd a chynnig lletygarwch sy'n tyfu. Mae cymysgedd amrywiol o westai, bwytai, lleoliadau adloniant ac atyniadau naturiol yn gwneud Abertawe'n lleoliad gwych i weithredwyr sydd am dyfu o fewn economi arfordirol llwyddiannus.
Mae buddsoddwyr twristiaeth byd-eang eisoes yn adnabod potensial Abertawe. Yn nodedig, mae Skyline, cwmni hamdden a thwristiaeth rhyngwladol amlwg, wedi dewis Abertawe fel ei leoliad cyntaf yn Ewrop - datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd fydd yn hybu niferoedd ymwelwyr ac incwm twristiaeth yn fwy fyth.
Gydag asedau naturiol, apêl rhyngwladol cynyddol, ac ymrwymiad clir i adfywio sy'n cael ei arwain gan dwristiaeth, mae Abertawe'n ddinas lle gall buddsoddwyr fod yn hyderus yn y twf hirdymor a chynaliadwy yn yr economi ymwelwyr.
Pwy sydd yma...






