AGB ABERTAWE

Mae Ardal Gwella Busnes (AGB) Abertawe'n gwasanaethu ac yn cefnogi'r 800+ o fusnesau yng nghanol dinas Abertawe.

Mae AGB Abertawe yn ymroddedig i gefnogi buddsoddwyr a busnesau yn Abertawe i dyfu ac i ffynnu. Mae hyn yn cael ei wneud drwy ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd. 

Gwasanaethau Cefnogi Busnes

O gyngor busnes i gefnogaeth gweithredol ymarferol, mae AGB Abertawe yn adnabod marchnad Abertawe yn llwyr gan ei fod wedi bod yn weithredol ers 2006. Bydd tîm AGB yn eich helpu i ganfod eich ffordd a llwyddo yn y farchnad leol.

Marchnata a Hyrwyddo

Bydd eich busnes yn cael ei hyrwyddo ar sianeli cyfryngau cymdeithasol AGB Abertawe ac mewn digwyddiadau ar draws y ddinas. Byddwch yn cael sylw mewn llythyrau newyddion misol sy'n mynd at bob un o'r 800+ busnes o fewn ardal AGB a gallwn ddarparu cyngor marchnata ac arweiniad penodol i'ch busnes.

Cyfleoedd Rhwydweithio

Mae digwyddiadau rhwydweithio yn darparu cyfle i gysylltu gyda busnesau eraill canol y ddinas, gan agor drws ar gyfer cydweithio ac adeiladu perthnasoedd gwerthfawr. Mae AGB Abertawe hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar bynciau fel trwyddedu, marchnata a iechyd a diogelwch.

Eiriolaeth a Chynrychiolaeth

Mae AGB Abertawe'n gweithredu ar ran yr 800+ busnes yn ardal y AGB, gan eiriol gydag awdurdodau lleol, llywodraethau a rhanddeiliaid. Mae'n gweithio gyda'i aelodau i roi llais i'r gymuned fusnes ar y materion sy'n fwyaf pwysig iddyn nhw.

Amgylchedd Glân a Diogel

Mae canol dinas glân, diogel a chroesawgar yn hanfodol ar gyfer llwyddiant busnesau ac mae AGB Abertawe yn chwarae ei ran yn gwneud hyn yn realiti. O ddarparu gwasanaeth glanhau strydoedd a Cheidwaid Canol y Ddinas i batrolio a chryfhau diogelwch a diogeledd, mae AGB Abertawe yn ymroddedig i wella'r amgylchedd yng nghanol y ddinas.

Digwyddiadau a Mentrau

Mae AGB yn gyfryngol i hyrwyddo digwyddiadau sy'n denu pobl i mewn i ganol y ddinas. O wyliau tymhorol i ddigwyddiadau hyrwyddo arloesol, mae rhywbeth yn digwydd drwy'r amser yng nghanol dinas Abertawe.

Mae tîm AGB Abertawe bob amser wrth law i gynnig cyngor a chefnogaeth wedi'u personoli. P'un a ydych chi'n fusnes presennol sy'n gobeithio symud i ganol y ddinas neu'n fusnes newydd sy'n barod i ddechrau masnachu, gall AGB eich helpu i wneud hynny.

Gallwch ddysgu rhagor fan hyn.