CYNGOR ABERTAWE
Mae gan Gyngor Abertawe dîm busnes penodol sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i'ch busnes.
P'un a ydych chi'n cychwyn eich busnes neu'n bwriadu ehangu a thyfu, gwella eich cynaliadwyedd neu'ch presenoldeb digidol, gallwn ni eich helpu.
Recriwtio a Hyfforddiant
Mae dod o hyd i weithlu medrus i wasanaethu eich busnes yn gallu bod yn heriol pan fyddwch chi'n cychwyn neu'n ail-leoli eich busnes. Rydym yn helpu i wneud y broses yn haws drwy agor drysau a gwneud cysylltiadau gyda cholegau AB lleol a phrifysgolion yn ogystal â gwasanaethau cyflogadwyedd fel Llwybrau at Waith.
Gallwn eich helpu i gael gafael ar hyfforddiant a datblygiad a phrentisiaethau penodol i'ch sector.
Cefnogaeth Ariannol
Rydyn ni'n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i ddarparu mynediad i gefnogaeth ariannol, boed hynny'n sicrhau grantiau neu'n cael gafael ar gynlluniau cefnogi ariannol lleol a rhanbarthol.
Bydd ein tîm busnes yn eich cysylltu gyda phartneriaid gwybodus i ddarparu cyngor a chefnogaeth, waeth beth yw maint neu sector eich busnes.
Cefnogaeth i Fusnesau Newydd
Gall ein cefnogaeth i gwmnïau newydd gymryd y boen allan o lansio busnes newydd. Rydyn ni eisiau eich gweld yn llwyddo ac wedi llunio pecyn o gefnogaeth sy'n cynnwys aelodaeth o Glwb Menter Busnesau Newydd Busnes Abertawe sy'n cysylltu busnesau newydd gydag arbenigwyr busnes ac yn darparu cefnogaeth misol wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Rydyn ni hefyd yn eich helpu i gael gafael ar gyllid a chanfod adeilad addas ar gyfer eich busnes. Mae gennym gysylltiadau cryf gyda Busnes Cymru ac Ymddiriedolaeth y Tywysog sy'n cynnig eu cefnogaeth penodol eu hunain i fusnesau newydd.
Rydyn ni hefyd yn cynnig adnoddau gwerthfawr fel ein gweithdai Awr Pŵer am Ddim yn trafod amryw o bynciau perthnasol yn ogystal â'r Clwb Menter i Fusnesau Newydd, sy'n ofod penodol ar gyfer busnesau newydd iddyn nhw gysylltu a ffynnu.
Mae Cyngor a Gwasanaethau Pellach yn Cynnwys:
• Awr Pŵer am Ddim: Gweithdai llawn gwybodaeth yn trafod amrywiaeth eang o bynciau cysylltiedig â busnes.
• Clwb Menter Busnesau Newydd: Cymuned gefnogol i fusnesau newydd gysylltu, dysgu a thyfu.
• Rhwydweithio Busnesau: Cyfleoedd gwerthfawr i gysylltu gyda busnesau eraill, cleientiaid a gweithwyr proffesiynol mewn diwydiant.
• Cefnogaeth Ariannol: Mynediad i amrywiaeth o opsiynau cyllido a rhaglenni cymorth ariannol.
• E-lythyr Newyddion Busnes: Byddwch yn derbyn y newyddion busnes diweddaraf a manylion am ddigwyddiadau a rhaglenni cefnogi.
Partneru am Lwyddiant:
Rydyn ni'n cydweithio'n agos gyda rhwydwaith amrywiol o bartneriaid i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr a phenodol i'r sector. Rydyn ni hefyd yn gweithredu fel eich cyfryngwr a byddwn yn eich cyfeirio at yr adran mwyaf priodol yn yr Awdurdod Lleol neu'r sefydliad cefnogi busnes all gwrdd â'ch gofynion penodol chi.
Cysylltwch â ni
E-bost: businessswansea@swansea.gov.uk
Linkedin: https://linkedin.com/groups/13976761
YouTube: https://www.youtube.com/@businessswansea