Diwydiannau Creadigol
Mae Abertawe yn ganolfan ffyniannus ar gyfer y diwydiannau creadigol, gydag enw da cynyddol fel arweinydd yn y sector CreaTech sy'n newid yn gyflym, lle mae creadigrwydd yn cwrdd â thechnoleg arloesol.
Arloesedd lle mae Creadigrwydd a Thechnoleg yn Cwrdd
Mae Abertawe'n gartref i gwmnïau arloesol fel Immersifi, datblygwr VR sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Abertawe. Mae Immersifi'n gwthio ffiniau technoleg ymgolli trwy ddatblygu atebion realiti rhithwir wedi'u teilwra i'r sector gofal iechyd - gan ddangos sut y gall arloesi creadigol arwain at effaith yn y byd go iawn.
Mae'r ysbryd arloesi hwn yn cael ei adlewyrchu yn isadeiledd ddigidol cadarn y ddinas, cefnogaeth academaidd a mynediad i dalent, gan wneud Abertawe'n lleoliad delfrydol ar gyfer busnesau creadigol sy'n ymchwilio i dechnolegau newydd.
Ecosystem Ddynamig i'r Celfyddydau a Diwylliant
Y tu hwnt i dechnoleg, mae Abertawe'n gartref i ddiwylliant celfyddydau a pherfformio sy'n cynnwys ffilm, theatr, dylunio goleuo, cynhyrchu clyweledol a rhagor. Mae agor Arena Abertawe wedi ehangu cynnig diwylliannol y ddinas yn sylweddol, gan ddenu perfformiadau o safon byd a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol creadigol.
Mae gan y ddinas hefyd gyfoeth o amgueddfeydd, orielau a gofodau celf cymunedol gan ddarparu platfformau ar gyfer mynegiant creadigol a chydweithio. Mae tirwedd amrywiol a chefnlen arfordirol Abertawe wedi ei gwneud yn lleoliad poblogaidd ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm proffil uchel, yn cynnwys Men Up a Doctor Who gan y BBC a Da Vinci's Demons.
Cydweithio, Ymchwil a Chefnogaeth Diwydiant
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) yn chwarae rhan ganolog yn yr economi greadigol. Drwy ei Ganolfan Ymchwil ac Arloesi'r Diwydiannau Creadigol (CIRIC) mae PCDDS wedi partneru gyda dros 500 o fusnesu, gan hyrwyddo ymchwil, dysgu a datblygu eiddo deallusol ar draws y sector creadigol.
I gryfhau'r ecosystem hon ymhellach, mae Cyngor Abertawe wedi lansio Rhwydwaith Creadigol Abertawe platfform sydd wedi'i ddylunio i gysylltu gweithwyr proffesiynol â'i gilydd, i annog cydweithio ac i feithrin datblygu sgiliau traws-sector. Drwy gynnal digwyddiadau rhwydweithio a gweithdai rheolaidd a chynnig cyfleoedd cyffredin, nod y rhwydwaith yw cefnogi talent creadigol a denu mewnfuddsoddi i'r rhanbarth.
Gyda'i gyfuniad unigryw o ynni creadigol, arloesedd creadigol a chefnogaeth cydweithredol mae Abertawe'n cynnig yr amgylchedd perffaith i ddiwydiannau creadigol dyfu, arbrofi a llwyddo.
Pwy sydd yma...





