Technoleg Ddigidol

Mae Abertawe'n arwain y gad gydag arloesedd digidol, gyda chefnogaeth buddsoddi mawr ac isadeiledd o safon byd sy'n trawsnewid y rhanbarth i fod yn hwb cysylltiedig, yn barod at y dyfodol, ar gyfer busnes.

Buddsoddiad o £175 mewn Isadeiledd y Genhedlaeth Nesaf

Fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, gwerth £1.3 biliwn, mae'r rhanbarth yn elwa yn sgil £175 miliwn o fuddsoddiad wedi'i dargedu at isadeiledd digidol. Mae'r ymrwymiad hwn yn gosod sylfaen ar gyfer twf economaidd i'r tymor hir a chymunedau mwy clyfar, mwy cysylltiedig.

Mae Cyngor Abertawe wedi partneru gyda Freshwave/Virgin Media O2 i ddefnyddio technoleg celloedd bach ar oleuadau stryd ar draws canol y ddinas - gan wella capasiti rhwydweithiau symudol yn ystod yr amserau brig. Mae'r celloedd bach hyn hefyd yn galluogi rhaglenni clyfar i'r ddinas yn y dyfodol, megis monitro ansawdd aer a rheoli gwastraff yn ddeallus.

Rhagwelir y bydd y Rhaglen Isadeiledd Digidol uchelgeisiol hon yn ychwanegu £318 miliwn at economi'r rhanbarth gan helpu i ddiogelu Abertawe at y dyfodol, at yr oes ddigidol.

Cysylltedd ac Ymchwil Arloesol

Yn arweinydd yn y DU mewn technoleg band eang GFast, mae Abertawe'n parhau i osod y safon ar gyfer cysylltedd digidol cyflym a dibynadwy. Mae'r ddinas hefyd yn gartref i Ffowndri Gyfrifiadurol Prifysgol Abertawe, canolfan ragoriaeth sy'n cael ei chydnabod yn genedlaethol ar gyfer gwyddorau cyfrifiadurol a mathemategol.

Mae'r Ffowndri'n pontio academia a diwydiant i yrru arloesedd mewn seiberddiogelwch, technolegau iechyd a thrawsnewid digidol gan osod Abertawe yn fagnet ar gyfer doniau technegol a chydweithio gyda diwydiant.

Ecosystem Busnes Digidol Ffyniannus

Mae sector technoleg ddigidol Abertawe'n tyfu'n gyflym, gydag ymchwydd o gwmnïau newydd yn dewis y ddinas fel man cychwyn ar gyfer arloesedd. Yn ganolog i'r twf hwn mae'r Matrics Arloesedd: cyfleuster o'r radd flaenaf yn Ardal Arloesedd SA1, wedi'i weithredu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n darparu amgylchedd gydweithredol i entrepreneuriaid, ymchwilwyr a buddsoddwyr sy'n canolbwyntio ar arloesedd digidol.

Yn ychwanegu at yr ecosystem ddynamig hon mae Tramshed Tech, hwb ffyniannus sy'n cysylltu busnesau technoleg, digidol a chreadigol gyda'r gofodau, y gefnogaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn llwyddo.

Gyda'r isadeiledd cadarn hwn, cyflenwad cynyddol o dalent ac ysbryd cydweithredol, Abertawe yw'r lle delfrydol i fuddsoddi, i arloesi ac i dyfu yn yr economi ddigidol.

Pwy sydd yma...