Iechyd a Gwyddorau Ffordd o Fyw
Mae Abertawe'n datblygu'n gyflym i fod yn ganolfan rhagoriaeth yn sector y gwyddorau bywyd, gyda chefnogaeth gweithlu medrus iawn, sefydliadau ymchwil o safon byd a chyfleusterau o'r radd flaenaf.
Rhagoriaeth Academaidd yn Gyrru Arloesedd
Yn ganolog i'r twf yma mae Prifysgol Abertawe, prif yrrwr arloesedd gwyddorau bywyd yn y rhanbarth. Mae'r Ysgol Feddygol, gyda dros 800 o fyfyrwyr, yn cael ei graddio'n 5ed yn y DU yn gyffredinol ac yn ail am ragoriaeth ymchwil (REF 2021), gan gadarnhau ei statws fel arweinydd cenedlaethol mewn ymchwil ac addysg feddygol.
Mae sefydliad blaenllaw'r Brifysgol, y Sefydliad Gwyddorau Bywyd, yn dod ag Ymchwil a Datblygu rhyngddisgyblaethol, cyfleusterau labordy blaengar ac unedau cynnal busnesau at ei gilydd. Mae hyn yn creu amgylchedd cydweithredol lle mae ymchwil arloesol yn cwrdd â chymhwyso masnachol - gan helpu i feithrin clwstwr bywiog i'r gwyddorau bywyd.
Cyfleusterau a Hybiau Ymchwil Blaenllaw
Mae Abertawe'n gartref i Ganolfan NanoIechyd cyntaf Ewrop, cyfleuster arloesol sy'n cyfuno biotechnoleg a pheirianneg i gyflymu datblygu dyfeisiau meddygol canfod yn gynnar, cyfarpar diagnostig a synwyryddion monitro iechyd.
I gefnogi arloesedd cynaliadwy, mae Prifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe wedi partneru i ddatblygu'r BioHwb Cynhyrchion Naturiol. Mae'r fenter hon yn cysylltu diwydiant, academia a chymunedau lleol i harneisio grym adnoddau lleol - gan yrru twf gwyrddach yn y sectorau amaeth, fferyllol a gweithgynhyrchu tra'n lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.
Isadeiledd Gofal Iechyd ac Ymchwil Integredig
Mae'r rhanbarth hefyd yn elwa o ecosystem gofal iechyd cadarn, wedi'i angori gan ddau ysbyty mawr - Treforys a Singleton - ynghyd ar ysbyty HMT Sancta Maria sydd newydd ei adeiladu, cyfleuster preifat o'r radd flaenaf.
Mae Prosiect Campysau Prifysgol Abertawe hefyd yn cryfhau'r ecosystem hwn ymhellach. Bydd y fenter yn creu gofodau newydd, penodol ar gyfer ymchwil ac arloesedd mewn technolegau chwaraeon ym Mharc Chwaraeon Lôn Sgeti ger Ysbyty Singleton a bydd yn sefydlu ymchwil glinigol gydweithredol a chyfleusterau datblygu masnachol yn Ysbyty Treforys.
Gyda'i gyfuniad o dalent, isadeiledd a phartneriaethau blaengar, mae Abertawe'n cynnig amgylchedd eithriadol ar gyfer busnesau a buddsoddwyr yn y sectorau gwyddorau bywyd a gofal iechyd.
Pwy sydd yma...




