Ynni Gwyrdd ac Adnewyddadwy

Mae Abertawe'n gyflym yn dod yn arweinydd mewn ynni gwyrdd ac adnewyddadwy, gydag arloesedd, cydweithio a buddsoddiad yn ganolog i'w bontio carbon isel. Fel un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn y ddinas, mae ynni gwyrdd yn cynnig cyfleoedd sylweddol i fuddsoddwyr blaengar sydd am gefnogi - ac elwa o - gynnydd cynaliadwy.

Ar Flaen y Gad gydag Arloesedd Ynni Gwyrdd

Yn ganolog i ddyheadau ynni adnewyddadwy Abertawe mae prosiect isadeiledd gwyrdd pwysig ac uchelgeisiol gwerth £3 biliwn. Mae cynlluniau'n cynnwys trawsnewid safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian i fod yn ganolfan cludiant gwyrdd arloesol, yn cynnwys:

  • cyfleuster creu hydrogen i ddarparu ynni ar gyfer cludiant y genhedlaeth nesaf
  • Isadeiledd eang i wefru cerbydau trydan
  • Ehangu fferm solar cyfagos, fydd yn dod yn fuan yn un o'r safleoedd cynhyrchu ynni haul mwyaf yn y DU

Bydd ynni'r haul yn bwydo cyfleuster newydd sbon i gynhyrchu batris technoleg uwch fydd yn storio ac yn dosbarthu'r ynni glân sy'n cael ei gynhyrchu'n lleol - gan osod Abertawe ar flaen y gad o ran arloesedd storio ynni.

Ymchwil a Chydweithio Diwydiannol o Safon Byd

Mae ecosystem ynni Adnewyddadwy Abertawe'n cael ei gryfhau gan bartneriaethau agos gydag academia, diwydiant a'r llywodraeth - gan greu amgylchedd ffrwythlon ar gyfer Ymchwil a Datblygu, arloesedd a masnacheiddio. Ymysg y mentrau nodedig mae:

  • SWITCH (Prifysgol Abertawe): Canolfan arloesol sy'n ffocysu ar ddatgarboneiddio'r gadwyn gyflenwi dur a metelau
  • Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) (PCDDS): Yn cefnogi llwybr y diwydiant adeiladu at sero net drwy ymchwil gymhwysol, hyfforddi'r diwydiant ac arloesedd mewn adeiladu oddi ar y safle.
  • Rhaglen RICE (Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni Prifysgol Abertawe): Archwilio sut y gall allyriadau diwydiannol CO₂ gael eu dal a'u trawsnewid yn gynhyrchion a chemegau gwerth uchel - gan arddangos rôl Abertawe yn economi gylchol carbon.

Dinas ag Ymrwymiad i Dwf Gwyrdd

Mae ymrwymiad Abertawe i gynaliadwyedd yn fwy na dim ond polisi - mae'n weithredu. Gyda chydweithio cadarn ar draws sectorau a gweledigaeth gytûn rhwng Cyngor y Ddinas, prifysgolion ac arweinwyr diwydiant, mae Abertawe'n creu'r amodau i fuddsoddiad mewn ynni gwyrdd ffynnu.

I fuddsoddwyr sydd eisiau bod yn rhan o chwyldro diwydiannol gwyrdd y DU, mae Abertawe'n cynnig yr isadeiledd, yr arloesedd a'r momentwm i ddarparu effaith ystyrlon - ac enillion cryf.

Pwy sydd yma...