Gweithio yn Abertawe

Fel calon fasnachol De Orllewin Cymru a dinas allweddol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, mae Abertawe'n cynnig amgylchedd deniadol i bobl broffesiynol ac i fusnesau fel ei gilydd.

Bob dydd mae dros 23,000 yn teithio i mewn i'r ddinas i weithio, wedi eu denu gan ei chyfleoedd cynyddol, ei diwylliant bywiog a'i safon byw eithriadol. Mae Abertawe'n sefyll allan am ei hygyrchedd, ei hisadeiledd digidol datblygedig a'i gweithlu medrus iawn. Gyda dwy brifysgol arobryn a phresenoldeb cryf yn y sector addysg bellach, mae'r ddinas yn meithrin cyflenwad o dalent sy'n cyd-fynd yn dda ag anghenion busnesau ar draws sectorau allweddol.

Dewch i ddarganfod pam fod Abertawe yn lle gwych i fyw ynddo yn ogystal â lle delfrydol i weithio ac i dyfu eich busnes.

Lleoliad

Mae gan Abertawe gysylltiadau ffordd a rheilffordd da, gyda chysylltiadau uniongyrchol i ddinasoedd mawr eraill y DU. Mae Porthladd Abertawe a'r agosrwydd at feysydd awyr Caerdydd a Bryste yn cryfhau ymhellach ei apêl logisteg. Mae gan y ddinas rwydwaith beicio cryf hefyd sy'n caniatáu i lawer o gymudwyr i feicio i'r gwaith ar lwybrau beicio penodol, heb draffig.

Cysylltedd Digidol

Credir erbyn hyn mai band eang dibynadwy a chyflym yw'r pedwerydd cyfleustod, ac mae Abertawe'n arwain y ffordd o ran cyflymderau band eang. Abertawe oedd un o'r dinasoedd peilot cyntaf i gyflwyno technoleg G-fast, sydd wedi helpu llawer o fentrau newydd sy'n ddibynnol ar fod ar-lein i weithredu.

Ers hynny, mae band eang cyflym iawn, sy'n cyfateb i gyflymderau o 30mb bob eiliad, bellach ar gael i bron pob cartref a busnes, ac mae mwy na 90% o'r rhai hynny yr ymdriniwyd â nhw eisoes yn gallu trosglwyddo data ar gyfradd gigadid. Gellir gweld parhad y cynnydd hwn yma: Think Broadband.

Mae 36 o safleoedd sector cyhoeddus ledled Abertawe a sir gyfagos Castell-nedd Port Talbot hefyd yn elwa o fuddsoddiad gwerth £1.2m drwy'r Fargen Ddinesig mewn rhwydwaith ffeibr tywyll a fydd yn cynyddu'r data sydd ar gael yn sylweddol. Darperir prosiect y Raglen Isadeiledd Digidol gan Virgin Media O2 Business. a bydd yn canolbwyntio ar ysbytai, ysgolion a swyddfeydd cynghorau. Bydd y rhwydwaith yn creu cyfleoedd gwell i ddatblygu’n arloesol ac yn effeithlon, gan hefyd feddu ar y gallu i ddiwallu anghenion newidiol y sector a'r holl bobl y mae'n eu gwasanaethu, a hynny mewn modd hyblyg. 

Sgiliau a Thalent

Gyda dwy brifysgol flaenllaw ac ecosystem addysg gydweithredol, mae Abertawe'n cynhyrchu gweithlu medrus iawn, yn barod ar gyfer y dyfodol. Mae'r cyflenwad o dalent yn cefnogi diwydiannau o wyddorau bywyd a digidol i ynni gwyrdd ac uwch weithgynhyrchu.

Cyllid a Chefnogaeth

P'un a ydych chi'n fusnes newydd, yn gwmni sy'n tyfu neu'n fewnfuddsoddwr, gall Abertawe gynnig popeth o: arweiniad ar gyllid a chwiliadau eiddo a chyngor arbenigol a chyfleoedd i gydweithio. Rydyn ni yma i wneud eich cam nesaf yn haws.