Datblygiadau sydd wedi'u cwblhau
Mae Abertawe wedi gweld newidiadau enfawr dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae buddsoddi mewnol a gwaith datblygu enfawr wedi trawsnewid canol y ddinas a thu hwnt. Mae llawer o brosiectau wedi'u cwblhau bellach ac wedi dod yn rhan o ffabrig y ddinas, yn atyniadau hamdden a chelfyddydau newydd yn ogystal â gofodau swyddfa modern.
Bae Copr
Mae Bae Copr yn gyrchfan tirnod newydd yn y ddinas sy'n cynnwys Arena Abertawe, gyda lle i 3,500 o bobl, parc arfordirol 1.1 erw, pont newydd dros Heol Ystumllwynarth, cartrefi newydd, unedau bwyd a diod, cysylltedd digidol o'r radd flaenaf a dau faes parcio newydd
Lleoliad: Heol Ystumllwynarth
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Heol Ystumllwynarth
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Theatr y Palas
Bydd y gwaith adfer sensitif yn yr hen theatr, agorodd yn wreiddiol yn 1888, yn gweld swyddfeydd a gofodau gweithio ar y cyd, ystafelloedd cyfarfod, gofodau digwyddiadau a chaffi a siop goffi. Tramshed Tech yw'r tenant arweiniol.
Lleoliad: Heol Tywysog Cymru, Abertawe
Arweinwyr y Prosiect: Cyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru a Tramshed Tech
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Heol Tywysog Cymru, Abertawe
Arweinwyr y Prosiect: Cyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru a Tramshed Tech
Ardal y Dywysoges
Mewn lleoliad gwych yng nghanol y ddinas, mae Ardal y Dywysoges yn ddatblygiad newydd o unedau swyddfa a manwerthu 15,000 troedfedd sgwâr. Mae blaen yr adeilad yn wydr ac mae'r tri llawr yn cynnwys teras to bywiog sy'n rhoi golygfeydd dramatig dros y ddinas.
Lleoliad: Ffordd y Dywysoges, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Kartay
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Ffordd y Dywysoges, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Kartay
Neuadd Albert
Mae'r gwaith o drawsnewid yr hen theatr gerdd a sinema, gwerth £8m+, yn cynnwys neuadd fwyd, llwyfan berfformio, ystafelloedd bwyta preifat ac ardal chwarae i blant. Mae'r lloriau uchaf yn cynnwys 18 o swyddfeydd, llety â gwasanaeth, gardd to a champfa.
Lleoliad: Neuadd Albert, Heol Cradock, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: LoftCo Ltd
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Neuadd Albert, Heol Cradock, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: LoftCo Ltd
Matrics Arloesedd
Adeilad ac eco-system o'r radd flaenaf yn canolbwyntio ar arloesedd digidol. Mae'r Matrics Arloesedd yn gwahodd busnesau newydd, busnesau presennol ac ymchwilwyr i gyd-leoli a chydweithio i yrru arloesedd digidol yn ei flaen.
Lleoliad: Ardal Arloesedd SA1
Arweinydd y Prosiect: Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Ardal Arloesedd SA1
Arweinydd y Prosiect: Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Heol y Gwynt
Ar hyn o bryd mae'n ganolog i economi nos y ddinas, ond mae'n dod yn gyrchfan drwy'r dydd gyda mwy o gyfleoedd am hwyl i'r teulu, i fwyta ac i gwrdd am goffi. Mae'r goleuo wedi cael ei wella ac mae coed newydd ac ardaloedd wedi'u plannu yno, mwy o lefydd i eistedd ac ymlacio a mwy o oleuni naturiol yn dod i mewn i'r stryd.
Lleoliad: Heol y Gwynt, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Heol y Gwynt, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Gwaith Copr yr Hafod Cam 1
Mae Cam 1 Gwaith Copr yr Hafod yn anadlu bywyd newydd i adeilad o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae'n cynnwys distyllfa Whisgi Penderyn a chanolfan ymwelwyr. Bydd Cam 2 yn cynnwys datblygiadau masnachol a phreswyl newydd.
Lleoliad: Gwaith Copr yr Hafod, Glandŵr, Abertawe
Arweinwyr y Prosiect: Cyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru, Cronfa'r Loteri Genedlaethol, Whisgi Penderyn
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Gwaith Copr yr Hafod, Glandŵr, Abertawe
Arweinwyr y Prosiect: Cyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru, Cronfa'r Loteri Genedlaethol, Whisgi Penderyn
71-72 Ffordd y Brenin a Gwelliannau i Dir y Cyhoedd
Gwaith i ailddatblygu hen glwb nos i fod yn ofod gweithio o'r radd flaenaf, wedi'i wella'n ddigidol ac yn 104,000 troedfedd sgwâr i dargedu busnesau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae gwelliannau i dir y cyhoedd wedi cael eu cwblhau i leihau traffig, i wella profiad y cerddwr ac i gynyddu gofodau gwyrdd ar y stryd.
Lleoliad: Ffordd y Brenin
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Ffordd y Brenin
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Urban Village
Mae Urban Village yn brosiect adfywio pwysig mewn ardal sy'n ddolen bwysig rhwng yr orsaf drenau a chanol y ddinas. Mae camau blaenorol wedi cynnwys tai fforddiadwy, gofod swyddfa newydd, unedau masnachol ac ailbwrpasu adeiladau hanesyddol.
Lleoliad: Stryd Fawr, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Grŵp Beacon Cymru a Chyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Stryd Fawr, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Grŵp Beacon Cymru a Chyngor Abertawe
Parc Felindre
Dim ond 7 milltir o ganol Abertawe ac wedi'i leoli'n agos at yr M4, mae Parc Felindre'n cynnwys 12 o leiniau datblygu yn amrywio mewn maint o 1.00 i 2.35 hectar, y cyfan gyda darpariaeth parcio helaeth. Mae hwn yn amgylchedd rhagorol ar gyfer datblygu busnesau.
Lleoliad: Llangyfelach, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Llangyfelach, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru