Cyfleoedd Cyfredol

Mae gan Abertawe nifer o ddatblygiadau yng nghanol y ddinas ei hun ac ar draws y sir, y cyfan yn barod ar gyfer eich busnes.

Mae gennym hefyd nifer o ddatblygiadau ar y gweill sydd ar hyn o bryd yn derbyn ymholiadau gan bartïon sydd â diddordeb. 

Does dim amser gwell wedi bod ar gyfer buddsoddi yn Abertawe.

71-72 Ffordd y Brenin
Disgrifiad: 47,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa Gradd A yn ogystal ag allanfeydd manwerthu a bwyd a diod. Mae'r datblygiad amlwg yma yng nghanol y ddinas hefyd yn darparu terasau awyr agored, teras to cymunedol, ystafelloedd cyfarfod a lolfa busnes.

Lleoliad: Ffordd y Brenin
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Ardal y Dywysoges
Datblygiad cyfoes yn cynnig 15,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa Gradd A yng nghanol dinas Abertawe. Mae'r gofod, sy'n gallu cael ei rannu'n ofodau llai, yn cynnwys teras to bywiog a phodiau cyfarfod ar y to gyda golygfeydd panoramig dros y ddinas. Mae'r llawr gwaelod yn cynnig unedau manwerthu o'r radd flaenaf y gellir eu haddasu.

Lleoliad: Ffordd y Dywysoges, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Datblygiadau Kartay
Dysgu Rhagor
Parc Felindre
Dim ond 7 milltir o ganol Abertawe ac wedi'i leoli'n agos at yr M4, mae Parc Felindre'n cynnwys 12 o leiniau datblygu yn amrywio mewn maint o 1.00 i 2.35 hectar, y cyfan gyda darpariaeth parcio helaeth. Mae hwn yn amgylchedd rhagorol ar gyfer datblygu busnesau.

Lleoliad: Llangyfelach, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru
Dysgu Rhagor
Sgwâr y Castell
Cyfle gwych ar gyfer allanfeydd bwyd a diod yn y lleoliad hwn yng nghanol dinas Abertawe sy'n destun gwaith adfywio mawr ar hyn o bryd. Fel rhan o'r gwelliannau i Sgwâr y Castell bydd gofod ar gyfer caffis a bwytai gyda llefydd i eistedd y tu allan a chanopïau.

Lleoliad: Sgwâr y Castell, Stryd Caer, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Canol Abertawe
30,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa Gradd A a gofod masnachol defnydd cymysg yng nghanol Abertawe. Mae gofod ar gyfer gwneuthurwyr creadigol a sefydliadau addysgu yn rhan o'r cynnig yma yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer caffis a bwytai sy'n agos at Arena Abertawe.

Lleoliad: Heol Ystumllwynarth
Arweinydd y Prosiect: Urban Spalsh
Dysgu Rhagor
Glannau'r Ddinas
Datblygiad mawr sy'n creu ardal newydd lle mae'r ddinas yn cwrdd â'r traeth. Mae cyfleoedd yma ar gyfer manwerthu, bwyd a diod, gofod swyddfa masnachol, gwesty, gofod digwyddiadau ac eiddo preswyl. Mae Urban Splash yn derbyn ymholiadau nawr gan unrhyw rai sydd â diddordeb.

Lleoliad: Heol Ystumllwynarth
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe Urban Splash
Dysgu Rhagor
Gwaith Copr yr Hafod Cam 2
Cymdogaeth ar lannau'r afon gyda defnydd cymysg yn cynnwys amrywiaeth o leiniau datblygu ar gyfer gwahanol ddefnyddiau a deiliaid - yn rhai preswyl a rhai masnachol. Wedi'i leoli ar lannau'r Afon Tawe, bydd hwn yn dod yn gyrchfan pwysig ar gyrion canol dinas Abertawe.

Lleoliad: Glandŵr, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe ac Urban Splash
Dysgu Rhagor
254-260 Heol Rhydychen
Chwe uned manwerthu allweddol ar brif stryd siopa Abertawe. Mae tri ar gael i'w rhentu ar hyn o bryd yn amrywio o ran maint rhwng 1,023 a 1,328 troedfedd sgwâr. Ychydig gamau o'r orsaf fysiau, Arena Abertawe a datblygiad newydd y Storfa, mae'r ardal hon yn gweld nifer uchel o bobl yn cerdded heibio.

Lleoliad: Canol Dinas Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Datblygiadau Kartay
Dysgu Rhagor