Datblygiadau'r Dyfodol

Gan adeiladu ar lwyddiant trawsnewidiad diweddar Abertawe, mae llawer o gynlluniau ar droed i wella'r ddinas y fwy fyth.

O ardaloedd adloniant a hamdden newydd i brosiectau ynni gwyrdd uchelgeisiol, dyma ddetholiad o ddatblygiadau Abertawe i'r dyfodol.

Glannau'r Ddinas
Cyrchfan newydd i drigolion ac ymwelwyr ddod at ei gilydd, i ymlacio a mwynhau ehangder hardd Bae Abertawe. Bydd ardal newydd yn cael ei chreu rhwng Arena Abertawe a'r Ganolfan Ddinesig gyda llefydd i fwyta, i yfed ac i fwynhau adloniant yn ogystal â chreu 600 o gartrefi newydd. Bydd Glannau'r Ddinas yn cynnwys 150,000 troedfedd sgwâr o ofod masnachol, acwariwm, gwesty a mannau gweithio.

Lleoliad: Bae Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe ac Urban Splash
Dysgu Rhagor
Gwesty - Bae Copr
Mae gwesty 150 ystafell wely gyda bar ar y to sy'n cynnig golygfeydd dros Fae Abertawe'n cael ei gynnig. Byddai'r gwesty'n darparu ar gyfer tua 40,000 o bobl y flwyddyn.

Lleoliad: Heol Ystumllwynarth
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Datblygiadau Hwb Ynni a Chludiant a Phorthladd Abertawe
Bydd y prosiect gwerth £6.25bn yn cynnwys hwb cludiant ynni gwyrdd, cyfleusterau generadu ynni solar a chyfleuster gweithgynhyrchu newydd yn gwneud batris uwch-dechnoleg. Bydd y prosiect yn cynnwys morlyn llanw, eco-gartrefi wedi eu hangori yn y dŵr a chanolfan ymchwil cefnforol a newid hinsawdd. Bydd y prosiect yn creu 2,500 o swyddi parhaol ac yn cefnogi 16,000 o swyddi eraill ar draws Cymru a'r DU.

Lleoliad: Bae Abertawe
Arweinwyr y Prosiect: DST Innovations
Dysgu Rhagor
Datblygiad San Helen
Mae Cae Chwarae San Helen yn cael ei ailddatblygu i fod yn gartref i'r Gweilch o dymor 2025/26 ymlaen. Mae'r datblygiad yn cynnwys gosod cae 4G newydd, eisteddleoedd newydd, ardal i'r cefnogwyr a thÅ· clwb wedi'i adnewyddu.

Lleoliad: Heol Ystumllwynarth, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe a Rygbi'r Gweilch
Dysgu Rhagor
Skyline
Cyrchfan hamdden o safon byd ar Fryn Cilfái, yn edrych i lawr dros Abertawe. Bydd yn cynnwys gondolas hygyrch, gwifren wib ddwy ffordd, reidiau luge, siglen awyr, llwybrau beicio mynydd, ardal i blant chwarae ac allfeydd bwyd a diod. Skyline Abertawe fydd yr atyniad diweddaraf i ymuno â grŵp Skyline sydd eisoes yn gweithredu datblygiadau tebyg yn Singapore, Kuala Lumpur a Queenstown. Bydd yr atyniad yn creu 100 o swyddi gyda 478 o swyddi eraill yn ystod y gwaith adeiladu.

Lleoliad: Bryn Cilfái, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Skyline Enterprises
Dysgu Rhagor
Prosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe
Sefydliadau masnachol yn cysylltu ag academia yn y sectorau gwyddorau bywyd, iechyd, lles a chwaraeon. Bydd y datblygiad mawr yma yn agos at ddau ysbyty'r ddinas yn gweld gofod arloesi newydd a gwell cysylltiadau cludiant i hwyluso cydweithio a thwf.

Lleoliad: Treforys a Singleton
Arweinydd y Prosiect: Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Dysgu Rhagor
Sinema'r Castell
Rhan o welliannau Sgwâr y Castell, bydd y gwaith o adfer yn sensitif hen Sinema'r Castell yn cynnwys gofod swyddfa bach a mawr a dau lawr o ofod bwyd a diod yn wynebu allan i gyfeiriad y castell. Bydd llawer o nodweddion gwreiddiol yr adeilad yn cael eu cadw.

Lleoliad: Sgwâr y Castell
Arweinydd y Prosiect: Grŵp Beacon Cymru a Chyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Cornel Lôn y Brenin
Bydd cam nesaf datblygiad Urban Village yn gweld Cornel Lôn y Brenin yn gartref i gyfres o unedau ar ffurf cynhwysyddion llongau i roi lle i fusnesau bach ochr yn ochr â gofodau agored wedi'i tirlunio. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys tai fforddiadwy newydd.

Lleoliad: Y Strand, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Grŵp Beacon Cymru a Chyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Glan Afon St Thomas
Rhagwelir coridor bywyd gwyllt gwyrdd gyda chartrefi glan afon ar gyfer safle glan afon 7.5 erw yn St Thomas. Mae'r cynigion cynnar yn cynnwys cartrefi teuluol, fflatiau, mannau cyhoeddus newydd a llwybr terasog newydd sy'n darparu mynediad uniongyrchol i'r afon am y tro cyntaf ers dros 150 mlynedd.

Lleoliad: St Thomas
Arweinydd y Prosiect: Urban Splash
Dysgu Rhagor