Datblygiadau Cyfredol
Mae gan Abertawe raglen uchelgeisiol o ddatblygiadau newydd a gwaith adnewyddu stoc adeiladu presennol.
Mae nifer o ddatblygiadau'n digwydd ar hyn o bryd gyda dyddiadau agor rhwng nawr a 2026. Mae'r datblygiadau hyn yn anadlu bywyd i bob rhan o'r ddinas a byddant yn fuddiol iawn i Abertawe gan greu cyfleoedd newydd am swyddi, gofodau gweithio arloesol a chyfleusterau hamdden.
Sgwâr y Castell
Gwaith adnewyddu gwerth £11m i'r gofod cyhoeddus hwn yng nghanol Abertawe. Bydd y sgwâr newydd yn cynnwys unedau bwyd a diod, 40% yn fwy o ofod gwyrdd, nodwedd ddŵr newydd wedi'i dylunio ar gyfer chwarae a sgrîn deledu ar gyfer digwyddiadau awyr agored.
Lleoliad: Sgwâr y Castell, Stryd Caer, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Sgwâr y Castell, Stryd Caer, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Byw Bioffilig
Cynllun 'adeilad byw' arloesol sy'n cynnwys canolfan acwaponeg, gofod arddangos, swyddfeydd a gofod preswyl. Bydd yr adeilad yn cynnwys waliau gwyrdd a thoeon gwyrdd, tÅ· gwydr trefol ar steil fferm wedi'i osod dros bedwar llawr, cyfleuster addysgu, gofod manwerthu a gardd do wedi'i thirlunio.
Lleoliad: Iard Picton, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Datblygiadau Hacer
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Iard Picton, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Datblygiadau Hacer
Y Storfa
Mae hen siop BHS ar Stryd Rhydychen yng nghanol dinas Abertawe yn cael ei ailwampio a'i ailbwrpasu i fod yn hwb cymunedol fydd yn gartref i'r Llyfrgell Ganolog, canolfan gyswllt Cyngor Abertawe a gwasanaethau allweddol eraill. Bydd y datblygiad mawr hwn yn dod â mwy o bobl i mewn i yn o brif strydoedd siopa Abertawe.
Lleoliad: Stryd Rhydychen, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Stryd Rhydychen, Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Cwm Tawe Isaf
Mae prosiect Cwm Tawe Isaf, sydd i fod i gael ei gwblhau yn 2026, yn canolbwyntio ar adfer yr adeiladau rhestredig sydd ar ôl yng Ngwaith Copr y Morfa a chynlluniau cysylltiedig eraill ar goridor Afon Tawe, megis gosod pontŵn ar lan orllewinol yr afon.
Lleoliad: Afon Tawe rhwng canol y ddinas a Gwaith Copr yr Hafod
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Afon Tawe rhwng canol y ddinas a Gwaith Copr yr Hafod
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
254-260 Heol Rhydychen
Chwe uned manwerthu allweddol ar brif stryd siopa Abertawe. Mae tri ar gael i'w rhentu ar hyn o bryd yn amrywio o ran maint rhwng 1,023 a 1,328 troedfedd sgwâr. Ychydig gamau o'r orsaf fysiau, Arena Abertawe a datblygiad newydd y Storfa, mae'r ardal hon yn gweld nifer uchel o bobl yn cerdded heibio.
Lleoliad: Canol Dinas Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Datblygiadau Kartay
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Canol Dinas Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Datblygiadau Kartay
Hwb Sector Cyhoeddus
Byddai'r Hwb Sector Cyhoeddus yn weithle i rai o staff y cyngor gan gynnwys staff nad ydynt yn ymdrin â'r cyhoedd sy'n gweithio yn y Ganolfan Ddinesig ar hyn o bryd. Byddai bron 1,000 o weithwyr yn gweithio yn yr adeilad newydd. Byddai hyn hefyd yn cynnwys gweithwyr o sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yn ogystal â thenantiaid eraill.
Lleoliad: Canol Dinas Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe
Dysgu Rhagor
Lleoliad: Canol Dinas Abertawe
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Abertawe