Polisi Preifatrwydd Gwefan Buddsoddwch yn Abertawe

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Buddsoddwch yn Abertawe ("ni", "ein") yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu eich gwybodaeth bersonol wrth i chi ddefnyddio ein gwefan a'n gwasanaethau. Rydym yn ymroddedig i sicrhau preifatrwydd a diogelwch eich data yn unol â GDPR.

Pa Wybodaeth y Byddwn yn ei Chasglu

Gallwn gasglu'r wybodaeth ganlynol drwy ein gwefan a'n gwasanaethau:

  • Enw llawn a theitl swydd
  • Gwybodaeth gyswllt (e.e., cyfeiriad e-bost a rhif ffôn)
  • Gwybodaeth ddemograffig (e.e., cod post, dewisiadau, diddordebau)
  • Data technegol megis cyfeiriad IP, math o borwr ac ymddygiad pori

Sail gyfreithiol ar gyfer Prosesu

Rydym yn prosesu eich data dan y seiliau cyfreithiol canlynol:

  1. Cydsyniad - Pan fyddwch yn darparu eich data'n wirfoddol (e.e., cofrestru i dderbyn llythyr newyddion).
  2. Buddiannau Dilys Pan mae prosesu'n angenrheidiol ar gyfer ein pwrpasau busnes dilys, megis gwella gwasanaethau neu farchnata (wedi'u cydbwyso â'ch hawliau chi).
  3. Ymrwymiadau Contract - Pan mae prosesu'n angenrheidiol ar gyfer perfformiad contract (e.e., darparu cynnyrch/gwasanaethau).
  4. Cydymffurfiad Cyfreithiol - I gydymffurfio â'n goblygiadau cyfreithiol (e.e., cyfreithiau treth).

 

Cadw Data

Rydym yn cadw data personol dim ond cyn belled ag sydd angen i gyflawni'r camau a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn neu fel y gofynnir gan y gyfraith. Mae'r cyfnod yr ydym yn cadw eich data yn gallu dibynnu ar fath y data a'r rheswm y cafodd ei gasglu.

  • Data Marchnata:Yn cael ei gadw cyhyd ag y byddwch yn parhau wedi tanysgrifio neu nes eich bod yn tynnu eich cydsyniad yn ôl.
  • Gwybodaeth Berthnasol i Gwsmeriaid:Yn cael ei chadw cyhyd ag y bydd angen i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a threth.

 

Unwaith na bydd angen eich data personol am y rhesymau y cafodd ei gasglu, byddwn yn dileu neu'n gwneud y data'n ddienw mewn dull diogel. Gallwch ofyn am ddileu data unrhyw bryd, a byddwn yn cydymffurfio â'ch cais, oni bai bod seiliau cyfreithiol cryf dros gadw'r data.

Diogelwch eich Gwybodaeth

Rydym wedi rhoi dulliau diogelu cadarn ffisegol, electronig a rheolaethol yn eu lle i warchod eich data. Mae'r rhain yn cynnwys amgryptio, gweinyddion diogel, a mynediad cyfyngedig i rwystro defnydd heb awdurdod neu ddatgeliad.

Cwcis

Ffeil bach sy'n cael ei storio ar yriant caled eich cyfrifiadur yw cwci. Mae'n helpu gwefannau i gofio eich dewisiadau ac yn caniatáu i ni ddarparu gwasanaeth wedi'i bersonoli. Mae cwcis yn caniatáu i ni deilwra ein gwefan i gwrdd â'ch anghenion ac i gasglu data ar gyfer dadansoddion. Dysgwch ragor am gwcis gyda Swyddfa Comisiwn Gwybodaeth y DU yma

  • Cwcis logio traffigYn cael eu defnyddio i adnabod pa dudalennau sy'n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data i wella ein gwefan ac i'w deilwra at anghenion defnyddwyr. Caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio ar gyfer dadansoddi ystadegau a'i dileu wedyn.
  • Cydsyniad ar gyfer Cwcis:Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan byddwch yn gweld baner cydsynio i gwcis. Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis nad ydynt yn hanfodol. Gall gwrthod cwcis effeithio ar ymarferoldeb rhai rhannau o'r wefan.

 

Cwcis Marchnata a Dadansoddion sy'n cael eu defnyddio ar y wefan hon.

  • Google Analytics
  • Google Tag Manager
  • Meta Pixel
  • LinkedIn Insight Tag

 
Rydym yn defnyddio Google Analytics a Google Tag Manager i gasglu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio'r safle hwn. Rydym yn gwneud hyn i sicrhau ei fod yn cwrdd ag anghenion ei ddefnyddwyr ac i ddeall sut y gallen ni ei wneud yn well. 


Mae Google Analytics yn stori gwybodaeth am y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw, pa mor hir rydych chi ar y safle, sut yr aethoch chi yno a beth rydych chi'n clicio arno, yn ogystal â pheth gwybodaeth ddemograffig gyffredinol. Nid oes modd defnyddio'r wybodaeth hon i'ch adnabod chi. I eithrio rhag cael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout

Mae Tag Manager, Meta Pixel a Thagiau LinkedIn Insight yn caniatáu'r opsiwn i werthuso dadansoddion marchnata ac i aildargedu'r rhai sydd wedi ymweld â'n gwefan. Mae'r wybodaeth hon yn gwbl ddienw ac ni ellir ei defnyddio i'ch adnabod chi'n bersonol, ond gall y cwcis hun olrhain eich gweithgaredd ar draws gwefannau eraill.

 

Gallwch newid gosodiadau eich porwr i reoli neu i flocio cwcis.

Cysylltiadau â Gwefannau Eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau trydydd parti. Nid oes gennym reolaeth dros y gwefannau hyn ac ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu wrth ymweld â nhw. Nid yw'r safleoedd allanol hyn yn cael eu rheoli gan y polisi preifatrwydd hwn. Argymhellwn eich bod yn adolygu eu datganiadau preifatrwydd.

Trosglwyddiadau Data Rhyngwladol

Mewn rhai achosion, gallwn rannu eich data gyda darparwyr gwasanaethau trydydd parti y gellir ymddiried ynddynt, wedi'u lleoli y tu allan i'r DU neu'r EEA. Os felly, rydym yn sicrhau bod eich data personol yn cael ei ddiogelu'n ddigonol drwy weithredu'r Cymalau Contractiol Safonol neu fecanweithiau cymeradwy eraill ar gyfer trosglwyddo data'n ddiogel.

Rhannu Eich Gwybodaeth

Dydyn ni ddim yn rhannu nac yn rhentu eich gwybodaeth bersonol. Gallwn rannu data gyda darparwyr gwasanaethau trydydd parti y gellir ymddiried ynddynt sy'n ein cynorthwyo i ddarparu ein gwasanaethau (e.e., marchnata neu gefnogaeth technegol). Mae gan y darparwyr hyn rwymedigaeth cytundebol i ddiogelu eich data dan safonau GDPR.

Gallwn hefyd rannu eich gwybodaeth os yw'n ofynnol gan y gyfraith.

Eich Hawliau Diogelu Data

Dan GDPR, mae gennych chi nifer o hawliau mewn perthynas â'ch data personol:

  1. Hawl Mynediad - Gwneud cais am gopi o'r data rydyn ni'n ei gadw amdanoch.
  2. Yr Hawl i Gywiro - Gofyn am gywiro unrhyw ddata anghywir neu anghyflawn.
  3. Yr Hawl i Ddileu - Gofyn ein bod yn dileu eich data personol pan nad oes ei angen bellach.
  4. Yr Hawl i Gyfyngu ar Brosesu - Gofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich data dan amodau penodol.
  5. Yr Hawl i Gludadwyedd Data Cais ein bod yn trosglwyddo eich data i sefydliad arall.
  6. Yr Hawl i Wrthwynebu - Gwrthwynebu prosesu eich data, yn enwedig at bwrpasau marchnata uniongyrchol.

I ymarfer unrhyw rai o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar invest@swansea.gov.uk.

Protocol Tor Diogelwch Data

Mewn achos annhebygol o dor diogelwch data, byddwn yn hysbysu'r unigolion sydd wedi'u heffeithio mor fuan ag sy'n bosibl, yn dilyn canllawiau GDPR. Byddwn hefyd yn adrodd am dor diogelwch i'r awdurdod diogelu data perthnasol o fewn 72 awr os yw hynny'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Newidiadau i'r Polisi Hwn

Gall Buddsoddwch yn Abertawe ddiweddaru'r polisi preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd. Argymhellwn eich bod yn gwirio'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i gael gwybod am sut rydyn ni'n diogelu eich gwybodaeth. Mae'r polisi hwn yn weithredol o'r 26ain Chwefror 2025.

Gwybodaeth Gyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon yn ymwneud â'r polisi preifatrwydd hwn, neu os dymunwch arfer eich hawliau diogelwch data, cysylltwch â ni:

Invest in Swansea LTD
E-bost: invest@swansea.gov.uk

Ffôn: 01792 635741