Pam Abertawe
Mae Abertawe'n darparu rhywbeth unigryw: amgylchedd fusnes sydd mor uchelgeisiol ag yw'n fforddiadwy, ynghyd â thraethau arobryn, cyfaredd hanesyddol a bywyd diwylliannol llewyrchus.
Y Ddinas ar y Traeth gyda chryfder masnachol
Mae Abertawe ar ganol rhaglen adfywio beiddgar gwerth £1 biliwn, gan ei gwneud yn un o gyrchfannau buddsoddi mwyaf cyffrous y DU gan greu cyfleoedd gwych ar draws pob sector. O gyrchfannau hamdden mawr newydd i hybiau arloesi ar y glannau, mae'r ddinas yn cynnig cyfleoedd masnachol eithriadol.
- Datblygiadau Hwb Ynni a Chludiant a Phorthladd Abertawe: Cyntaf yn y byd o ran ynni adnewyddadwy
- Skyline Abertawe: Y lleoliad cyntaf yn Ewrop ar gyfer y brand byd-eang, Skyline
- Matrics Arloesedd: Hwb ar gyfer cwmnïau newydd ac ymchwil a datblygu uwch.
Gyda chefnogaeth cydweithio cyhoeddus-preifat-academaidd cadarn, mae'r ddinas yn darparu amgylchedd risg-isel â photensial uchel, gydag isadeiledd all ehangu a thalent medrus. Wedi'i lleoli ar gyfer twf a chynaliadwyedd, mae Abertawe'n cynnig cyfle i fuddsoddwyr fod yn rhan o ddinas arfordirol fywiog sydd ar flaen y gad gydag arloesedd ac adfywio.
Rydyn ni'n ei gwneud hi'n hawdd i chi
P'un a ydych chi'n gwmni newydd, yn un sy'n tyfu neu'n fuddsoddwr byd-eang, mae Abertawe'n barod i gefnogi eich taith gyda:
- Mynediad i gyllid
- Gofod swyddfa hyblyg a safleoedd datblygu
- Rhwydweithiau ac arweiniad busnes
- Dinas sy'n gwrando
Cydweithio yn ganolog i ni
Mae Abertawe'n ffynnu ar ei model helics triphlyg - partneriaeth ddofn a phrofedig rhwng y sector preifat, cyrff cyhoeddus a phrifysgolion o safon byd.
Mae Cyd-Bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru a'i Fwrdd Ymgynghorol y Sector Preifat yn rhoi llais neilltuol i fusnesau i siapio datblygiad y rhanbarth, gan yrru economi gysylltiedig a chynhwysol.
Gweithlu Medrus
Mae'r ddwy brifysgol yn Abertawe, Prifysgol Abertawe a PCDDS, yn bwerdai ar gyfer arloesedd ymchwil ac entrepreneuriaeth. Mae Abertawe'n gweithio'n agos gyda'r ddau sefydliad, ynghyd â'r darparwyr addysg bellach amrywiol yn y rhanbarth, i feithrin talent ac i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau'r dyfodol.
Gweithio yn Abertawe
Gyda dros 23,000 yn teithio i mewn i'r ddinas i weithio bob dydd a phoblogaeth sy'n tyfu o entrepreneuriaid, ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol medrus, ynghyd â mynediad i ofodau gweithio modern a chyllido, gwnewch Abertawe'n ddinas lle mae uchelgais yn troi'n gyflawni.
Byw yn Abertawe
Does dim rhaid i chi ddewis rhwng yr arfordir, y wlad neu'r ddinas. Yn Abertawe, mae'r cyfan ar stepen eich drws. Gydag 8km o draeth, lleoliadau diwylliannol, gofod gwyrdd ac ysgolion rhagorol, mae'n hawdd gweld pam ein bod yn cael ein galw'n Ddinas ar y Traeth.
Lleoliad
Mae gan Abertawe gysylltiadau da gyda dinasoedd mawr eraill.
- Caerdydd - 1 awr
- Bryste - 1 awr 30 munud
- Birmingham - 3 awr
- Llundain - 3 awr 25 munud
- Caerdydd - 52 munud
- Bryste - 1 awr 20 munud
- Birmingham - 2 awr 55 munud
- Llundain - 2 awr 45 munud
Mae Abertawe mewn lle da ar gyfer teithiau awyr, gyda Maes Awyr Caerdydd rhyw awr i ffwrdd a Maes Awyr Bryste o fewn awr a hanner, gan ddarparu mynediad hawdd i hediadau domestig a rhyngwladol.
Mae Porthladd Abertawe'n gallu trafod 30,000 tunelledd llwyth ac mae'n trafod gwerth rhyw £140 miliwn mewn masnach bob blwyddyn. Mae'r porthladd yn cynnig angorfeydd a chyfleusterau ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o gargo ac mae wedi'i leoli'n agos at ganol y ddinas ac at bob cysylltiad cludiant.