Byw yn Abertawe
Fel dinas blaendraeth Cymru, mae Abertawe'n cynnig ansawdd bywyd eithriadol sy'n cydbwyso harddwch naturiol gydag egni trefol.
Gyda milltiroedd o arfordir, digwyddiadau diwylliannol bywiog, tai fforddiadwy a rhaglen adfywio uchelgeisiol gwerth £1 biliwn, mae'r Ddinas ar y Traeth yn gyflym yn dod yn un o ddinasoedd mwyaf deniadol i fyw ynddi yn y DU.
P'un a ydych chi'n symud i'r ddinas, yn dod yn ôl neu yn chwilio am well cyflymder bywyd - dewch i weld sut mae Abertawe a'i phobl yn ei gwneud hi'n hawdd teimlo'n gartrefol.
Byw lle mae eraill yn dod ar wyliau
Amgylchedd naturiol Abertawe yw un o'i phrif asedau. Fel y Ddinas ar y Traeth, mae'n cynnig mynediad ar unwaith i bum milltir o arfordir eang, gyda gofodau gwyrdd tu cefn iddo a Penrhyn Gŵyr ar y trothwy. I chi a'ch tîm, mae hyn yn golygu padlfyrddio yn y bore cyn gwaith, mynd am dro ar hyd y bae dros amser cinio, ac anturiaethau dros y penwythnos funudau o'ch stepen drws.
Mae amgylchedd naturiol Abertawe'n fwy na dim ond harddwch - mae'n siapio hunaniaeth y ddinas, yn gwella bywyd bob dydd ac yn cynnig un o'r lleoliadau mwyaf nodedig i fyw ac i weithio ynddo yn y DU.
Yn swatio rhwng arfordir a chefn gwlad, mae Abertawe'n rhoi lle i chi feddwl, i anadlu ac i ffynnu. O olygfeydd o'r môr o'ch desg i fynd am dro â'r haul yn machlud, nid rhywbeth i chi ymweld ag ef yw natur yma - mae'n rhan o wead bywyd bob dydd.
Lle mae'r Môr yn Cwrdd â'r Ddinas
Fel Dinas ar y Traeth Cymru, mae Abertawe'n dod â chi'n nes at natur heb gyfaddawdu ar gyfleustra. Mae arfordir eang yn rhedeg am bum milltir o flaen canol y ddinas gan gynnig mynediad ar unwaith i draethau tywod, llwybrau arfordirol a golygfeydd panoramig dros y môr. Boed yn badlfyrddio cyn mynd i'r gwaith, beicio ar hyd llwybr y bae neu fwynhau bwyta gyda'r môr yn gefnlen
A gyda thraeth arobryn Bae Abertawe ychydig gamau o'r stryd fawr, mae'n fyw yn y ddinas wedi'i ailddychmygu.
Penrhyn Gŵyr – Natur o Safon Fyd-eang
Taith fer yn y car o'r ddinas, mae Penrhyn Gŵyr yn cynnig clogwyni dramatig, bryniau tonnog, coedwigoedd hynafol a rhai o draethau gorau'r DU - yn cynnwys Bae Rhosili gafodd ei bleidleisio yn un o draethau gorau'r byd. Fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf Prydain, mae Penrhyn Gŵyr yn noddfa i gerddwyr, i syrffwyr ac i'r rhai sy'n caru bywyd gwyllt fel ei gilydd.
I'r rhai sy'n symud i Abertawe, nid rhywle i ddianc am benwythnos yw Penrhyn Gŵyr - ond rhan o'ch gardd gefn newydd!
Parciau a Mannau Gwyrdd
Mae Abertawe'n ddinas werdd gyda dros 50 o barciau a gerddi - o harddwch botanegol Gerddi Clyne i'r gofodau agored eang ym mharciau Singleton a Brynmill. Mae patrwm y ddinas yn sicrhau bod gofod gwyrdd yn agos i bobman, gan roi llefydd i drigolion a theuluoedd ymlacio, adnewyddu ac aros yn egnïol.
Ychwanegwch warchodfeydd natur, llwybrau beicio a gerddi cymunedol, a dyma ddinas sy'n annog llesiant ym mhob twll a chornel.
Ffordd o Fyw wedi'i Siapio gan Natur
P'un a ydych chi'n teithio i'r gwaith ar hyd yr arfordir, yn ymlacio ar greigiau Penrhyn Gŵyr neu'n mwynhau rhedeg drwy'r parc dros amser cinio, mae amgylchedd naturiol Abertawe yn fantais ddyddiol. Mae'n cefnogi ffyrdd o fyw mwy iach, yn denu'r doniau gorau ac yn creu ymdeimlad cryfach o le ar gyfer unigolion, teuluoedd a busnesau.
Yn Abertawe, nid dihangfa yw natur - mae'n gefndir y fywyd bob dydd.
Diwylliant ac Adloniant
Yn gartref i arena mwyaf newydd Cymru ac yn cynnal calendr o ddigwyddiadau, gwyliau, cerddoriaeth fyw a chwaraeon drwy gydol y flwyddyn, mae rhywbeth yn digwydd yn Abertawe drwy'r amser
O'i digwyddiadau creadigol dynamig a'i threftadaeth gyfoethog i'w digwyddiadau o safon byd a'i diwylliant chwaraeon bywiog, mae'r Ddinas ar y Traeth yn cynnig amgylchedd sy'n ysbrydoli i bob chwaeth.
Cerddoriaeth a'r Celfyddydau
Mae Abertawe'n llawn o egni creadigol gan gynnig digwyddiadau celfyddydol a cherddorol wedi'u hangori gan leoliadau eiconig. O acwsteg gwych Neuadd Brangwyn i berfformiadau hyfryd yn Theatr y Grand ac arddangosfeydd yn Oriel Gelf Glynn Vivian, mae'r ddinas yn fagnet i ddoniau byd-enwog.
Uchafbwynt yw Arena Abertawe, lleoliad blaengar gafodd ei agor yn 2022. Gyda lle i gynulleidfa o 3,500 a chysylltiad trawiadol i ganol y ddinas dros y bont nodedig, mae eisoes wedi croesawu dros 350,000 o ymwelwyr ar gyfer perfformiadau cerddoriaeth, comedi a theatr eithriadol.
Digwyddiadau
Gyda'i lleoliad dramatig ar yr arfordir, mae Abertawe'n troi'n llwyfan naturiol ar gyfer digwyddiadau bythgofiadwy. Pob mis Gorffennaf bydd y ddinas yn cynnal Sioe Awyr Cymru, gan ddenu dros 200,000 o bobl i wylio'r awyr a mwynhau'r traethau.
Drwy'r flwyddyn mae Abertawe'n ffynnu ar adrenalin digwyddiadau chwaraeon o'r radd flaenaf yn cynnwys Triathlon Abertawe, Hanner Marathon, 10k Bae Abertawe a'r Ironman 70.3 - gan droi'r ddinas yn faes chwarae i athletwyr a chefnogwyr fel ei gilydd.
Chwaraeon
Yn Abertawe, mae chwaraeon yn fwy na dim ond adloniant - mae'n angerdd, wrth i'r ddinas gefnogi ei thimau. Mae Clwb Pêl-droed Abertawe'n dod â chyffro'r Bencampwriaeth yn fyw, gan ddenu torfeydd i Stadiwm Swansea.com. Yn y cyfamser, mae tîm rygbi'r Gweilch ar fin cychwyn ar bennod newydd yn eu cartref newydd ar faes San Helen ar y blaendraeth.
Y tu hwnt i'r cae chwarae, mae Abertawe'n cefnogi ffordd o fyw egnïol gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf - campfeydd, pwll nofio 50 metr, canolfan hamdden fywiog gyda pharc dŵr - yn ogystal â digonedd o chwaraeon dŵr a llwybrau cerdded a beicio â golygfeydd hardd.
Cymuned
Pobl Abertawe ac ymdeimlad o gymuned yw un o'i hasedau cryfaf. Yn Ddinas Noddfa swyddogol, fe gewch groeso cynnes yma a digon o gyfleoedd i fod yn rhan o'r gymuned. P'un a ydych chi'n newydd i'r ddinas neu'n dod yn ôl adref, rydych chi'n gwneud mwy na symud i mewn - rydych chi'n perthyn.
Mae Abertawe'n ddinas sy'n ffynnu ar ei phobl - cymuned fywiog, gynhwysol a blaengar. Gyda phoblogaeth o 241,300 a rhagamcaniadau y bydd yn cyrraedd 250,000 erbyn 2030, mae Abertawe'n tyfu o ran maint ac ysbryd.
Croeso Abertawe
Mae Abertawe'n falch o fod â statws Dinas Noddfa swyddogol, cydnabyddiaeth sy'n cael ei dyfarnu i ddinasoedd sy'n dangos diwylliant o letygarwch a chroeso, yn enwedig i ffoaduriaid sy'n ceisio noddfa rhag rhyfel ac erledigaeth. Mae'r ymrwymiad hwn i fod yn gynhwysol yn amlwg mewn mentrau megis Hwb Diwylliant BAME Abertawe sy'n dod â grwpiau cymunedol amrywiol at ei gilydd yng nghanol y ddinas.
Ynni ac Arloesedd Ieuanc
Yn gartref i ddwy brifysgol, mae gan Abertawe boblogaeth o 29,000 o fyfyrwyr, gan lenwi'r ddinas ag ynni ac arloesedd yr ieuanc. Mae'r amgylchedd academaidd dynamig hwn yn cyfrannu at weithlu medrus a darpariaeth ddiwylliannol fywiog.
Ffordd o Fyw a Chymunedau sy'n Ffynnu
Mae cymunedau Abertawe'n cynnig cymysgedd o harddwch yr arfordir a chyfleustra'r dref. Mae ardal yr Uplands wedi cael ei gydnabod gan Travel Supermarket fel un o lefydd mwyaf hip y DU i dreulio amser ynddo ac mae'r Mwmbwls wedi cael ei enwi'r Lle Gorau i Fyw yng Nghymru gan y Sunday Times. Mae'r acolâdau hyn yn adlewyrchu apêl y ddinas i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd sy'n chwilio am ffordd o fyw o ansawdd uchel.
Hygyrch ac wedi'i Gysylltu
Mae dros 600,000 o bobl yn byw o fewn hanner awr yn y car o'r ddinas, a 2 filiwn arall o fewn awr o daith, gan ei wneud yn hwb hygyrch ar gyfer busnes a hamdden.