Sgiliau a Thalent
Mae Abertawe'n cael ei phweru gan bobl. Mae gan bron 48% o'i gweithlu gymwysterau ar lefel gradd neu uwch, wedi'u tanategu gan brifysgolion arobryn a sector addysg bellach ffyniannus. Mae'r gronfa dalent fedrus a hyblyg yn cael ei chefnogi gan bartneriaethau cryf rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat ac academia sy'n bwydo arloesedd, menter a chyfleoedd.
Addysg ac Arloesedd o Safon Byd
Prifysgol Abertawe
- Y brifysgol orau yng Nghymru (Guardian University Guide 2024)
- 20,000+ o fyfyrwyr
- Arweinydd byd mewn cydweithio ar ymchwil a busnes
- Cartref i'r Ffowndri Gyfrifiadurol, yn denu talent gorau'r byd a phartneriaid diwydiant
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS)
- Prifysgol dwy-sector gyda champysau ar draws y rhanbarth
- Prifysgol yn neg uchaf ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr (NSS 2023)
- Matrics Arloesedd yn SA1 yn gyrru arloesedd ddigidol a phartneriaethau diwydiannol
Coleg Gŵyr Abertawe
- 14,000 o fyfyrwyr ar draws y ddinas
- Hyfforddiant academaidd a galwedigaethol
- Cangen hyfforddi arbenigol yn cynnig datrysiadau wedi'u teilwra ar gyfer y gweithlu i gyflogwyr
Y Rhaglen Sgiliau a Thalent
Yn rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, gwerth £30 miliwn, mae'r rhaglen hon yn pontio'r bwlch sgiliau o fewn sectorau iechyd, digidol, adeiladu, gweithgynhyrchu ac ynni gyda:
- 14,000+ o gyfleoedd uwchsgilio
- 3,000+ o brentisiaethau
- 2,200 o leoliadau hyfforddi newydd
- 20 o fframweithiau cwrs newydd
Canolfannau Rhagoriaeth ar gyfer hyfforddiant penodol i sectorau
Wedi'i yrru gan gydweithio rhwng diwydiant, addysg a sefydliadau cymunedol, mae agenda sgiliau cynhwysol Abertawe yn paratoi'r rhanbarth ar gyfer twf yn y dyfodol.