Gweithio yn Abertawe

Fel calon fasnachol De Orllewin Cymru a dinas allweddol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, mae Abertawe'n cynnig amgylchedd deniadol i bobl broffesiynol ac i fusnesau fel ei gilydd.

Bob dydd mae dros 23,000 yn teithio i mewn i'r ddinas i weithio, wedi eu denu gan ei chyfleoedd cynyddol, ei diwylliant bywiog a'i safon byw eithriadol. Mae Abertawe'n sefyll allan am ei hygyrchedd, ei hisadeiledd digidol datblygedig a'i gweithlu medrus iawn. Gyda dwy brifysgol arobryn a phresenoldeb cryf yn y sector addysg bellach, mae'r ddinas yn meithrin cyflenwad o dalent sy'n cyd-fynd yn dda ag anghenion busnesau ar draws sectorau allweddol.

Dewch i ddarganfod pam fod Abertawe yn lle gwych i fyw ynddo yn ogystal â lle delfrydol i weithio ac i dyfu eich busnes.

Lleoliad

Mae gan Abertawe gysylltiadau ffordd a rheilffordd da, gyda chysylltiadau uniongyrchol i ddinasoedd mawr eraill y DU. Mae Porthladd Abertawe a'r agosrwydd at feysydd awyr Caerdydd a Bryste yn cryfhau ymhellach ei apêl logisteg. Mae gan y ddinas rwydwaith beicio cryf hefyd sy'n caniatáu i lawer o gymudwyr i feicio i'r gwaith ar lwybrau beicio penodol, heb draffig.

Cysylltedd Digidol

Mae Abertawe'n arwain y ffordd gydag isadeiledd ddigidol, gan gynnig rhwydwaith telathrebu sy'n barod ar gyfer y dyfodol ac yn cefnogi cyfathrebu uwch ddata a fideo ac yn darparu mynediad i fand llydan hypergyflym. Mae Abertawe'n arloeswr yn y DU mewn technolegau band eang cyflym iawn ac mae'n parhau i fod ar y blaen o ran cysylltedd digidol.

Yn Abertawe mae 99.3% o adeiladau'n gallu cael mynediad i fand eang cyflym iawn, gyda dros 90.81% yn elwa o gyflymder all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid. I fusnesau sydd â galwadau uwch, mae cysylltedd aml-gigadid ar gael yn rhwydd gan rhai o brif gludwyr telecom y byd.

I wella capasiti digidol ymhellach, mae Rhaglen Isadeiledd Digidol Abertawe'n darparu uwchraddiad mawr drwy dreiglo allan Rhwydwaith Ffibr Tywyll newydd. Mae'r rhwydwaith yn cael ei ddarparu gan Virgin Media O2 Business fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a bydd yn cynyddu cyflymder data yn ddramatig - gan gadarnhau safle Abertawe fel dinas ddigidol ddatblygedig yn barod am fuddsoddiad, arloesedd a thwf cynaliadwy.

Sgiliau a Thalent

Gyda dwy brifysgol flaenllaw ac ecosystem addysg gydweithredol, mae Abertawe'n cynhyrchu gweithlu medrus iawn, yn barod ar gyfer y dyfodol. Mae'r cyflenwad o dalent yn cefnogi diwydiannau o wyddorau bywyd a digidol i ynni gwyrdd ac uwch weithgynhyrchu.

Cyllid a Chefnogaeth

P'un a ydych chi'n fusnes newydd, yn gwmni sy'n tyfu neu'n fewnfuddsoddwr, gall Abertawe gynnig popeth o: arweiniad ar gyllid a chwiliadau eiddo a chyngor arbenigol a chyfleoedd i gydweithio. Rydyn ni yma i wneud eich cam nesaf yn haws.