Croeso i

ABERTAWE

Y Ddinas ar y Traeth lle mae cyfle'n cwrdd â ffordd o fyw

Dyma Abertawe - dinas sydd wedi'i diffinio gan drawsnewid, wedi'i gyrru gan arloesedd lle mae busnesau'n ffynnu.

Wedi'i osod ar arfordir syfrdanol Cymru, mae Abertawe'n fwy na lle hardd i fyw ynddo. Rydyn ni'n fan cychwyn ar gyfer busnesau twf uchel, hwb ar gyfer cydweithio a chreadigrwydd, a symudiad clyfar i unrhyw fuddsoddwr sy'n barod i adeiladu ar gyfer y dyfodol.

P'un a ydych chi'n meddwl am adleoli, tyfu neu arloesi - dyma eich amser i fuddsoddi yn Abertawe.

Dinas wedi'i hail-ddychmygu ar gyfer y dyfodol

Mae hanes Abertawe'n adrodd am ailddyfeisio - o'i gwreiddiau diwydiannol i'w rôl modern fel dinas sy'n gatalydd i economi Cymru.

Heddiw mai rhaglen adfywio gwerth £1 biliwn yn ailffurfio'r ddinaswedd. Yma mae busnesau'n ffynnu mewn amgylchedd sy'n barod am y dyfodol gyda chefnogaeth partneriaethau cyhoeddus-preifat cadarn, cysylltiadau cryf â phrifysgolion a gweithlu tra-medrus a chost-effeithiol.


Mae hyn yn fwy nag adfywio - mae'n atgyfodiad.

Sectorau

Gyda dwy brifysgol flaenllaw a rhwydwaith greadigol ffyniannus, mae Abertawe'n cynnig y man cychwyn perffaith ar gyfer twf ar draws sectorau allweddol