Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes
Mae Abertawe'n ganolfan ffyniannus i fusnesau a gwasanaethau proffesiynol, yn gartref i ecosystem gadarn o gwmnïau sefydledig, ymgynghoriaethau sy'n dod i'r amlwg a rhwydweithiau cydweithredol sy'n cefnogi llwyddiant busnesau ar bob cam.
Cymuned Fusnes â Chysylltiadau Gwych
O wasanaethau cyfrifeg a chyfreithiol i TG, AD ac ymgynghoriaethau marchnata, mae Abertawe'n cynnig cronfa eang o arbenigedd proffesiynol. Mae'r ddinas yn gartref i bencadlys cwmni cyfrifyddion annibynnol mwyaf Cymru, Bevan Buckland, a chwmni cyfreithwyr annibynnol mwyaf y wlad, JCP Solicitors, ac mae wedi profi i fod yn lleoliad dibynadwy ar gyfer cwmnïau gwasanaethau proffesiynol mawr. P'un a ydych chi'n sefydlu menter newydd neu'n ail-leoli fel cwmni sefydledig, mae'r ddinas yn darparu mynediad i ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau dibynadwy fydd yn gallu eich helpu i gychwyn ar y gwaith ar unwaith.
Dinas sy'n Ffynnu
Mae rhaglen adfywio uchelgeisiol Abertawe, gwerth £1 biliwn, a'i gweledigaeth bendant am dwf yn y dyfodol yn denu sylw a buddsoddiad newydd, gan ei gwneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer cwmnïau gwasanaethau proffesiynol. Wrth i'r ddinas esblygu, yn yr un modd mae'r galw am wasanaethau ymgynghorol arloesol, sy'n canolbwyntio ar y cleient yn esblygu ar draws sectorau amrywiol.
Mae rhwydwaith busnes cadarn yn ddinas yn cael ei gryfhau ymhellach gan Glwb Busnes Bae Abertawe a ddathlodd ei ben-blwydd yn 75 yn 2024. Mae'r Clwb yn dod â phobl broffesiynol at ei gilydd o bob cwr o'r rhanbarth, gan ddarparu cyfleoedd rhwydweithio a meithrin ysbryd o gydweithio.
Cysylltu Addysg a Menter
Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn chwarae rhan allweddol yn gyrru arloesedd o fewn y sector. Mae'n cydweithio'n agos gyda chwmnïau lleol ar fentrau ymchwil a datblygu sy'n cefnogi twf busnesau. Mae cyrsiau'r Ysgol wedi'u hachredu gan gyrff proffesiynol amlwg, yn cynnwys ACCA, CIM, CFA a CIPD gan sicrhau cyflenwad rheolaidd o raddedigion cymwys, yn barod am y gweithle.
Mae'r cysylltiad cryf hwn rhwng addysg a menter yn cadarnhau enw da Abertawe fel dinas lle mae gwasanaethau proffesiynol yn ffynnu - a lle y gall cwmnïau uchelgeisiol dyfu'n hyderus.
Pwy sydd yma...







